Newyddion S4C

Cowbois yn gohirio 'pob sioe dros y misoedd nesaf'

23/07/2024
Iwan Huws

Mae un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru wedi gohirio'i holl berfformiadau dros y misoedd nesaf oherwydd salwch un o'i haelodau.

Roedd yn rhaid i Cowbois Rhos Botwnnog dorri ei set yn fyr yn Sesiwn Fawr Dolgellau nos Wener ar ôl i brif leisydd a gitarydd y band gael ei daro’n wael.

Yn ddiweddarach, fe gadarnhaodd y band fod Iwan Huws wedi cael ei gludo i'r ysbyty ac mewn cyflwr “sefydlog”.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun, fe ddywedodd y band eu bod "yn anffodus" yn gohirio "pob sioe dros y misoedd nesaf".

Ni fydd Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mewn Gigs Cymdeithas yr Iaith nac yn Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Ychwanegodd y band: "Diolch bawb am eich negeseuon a'ch cydymdeimlad."

Ym mis Ebrill, fe adroddodd Newyddion S4C hanes Iwan yn dychwelyd i’r byd cerddoriaeth wedi seibiant ar ôl iddo dderbyn llawdriniaeth ar y galon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.