Eisteddfod Wrecsam 2025 yn 'gyfle i ddathlu'r iaith a chynyddu nifer y siaradwyr'
Eisteddfod Wrecsam 2025 yn 'gyfle i ddathlu'r iaith a chynyddu nifer y siaradwyr'
Mae Eisteddfod Wrecsam 2025 yn 'gyfle i ddathlu'r iaith a chynyddu nifer y siaradwyr' yn ôl un o nifer sy'n gweithio'n galed i baratoi ar gyfer y Brifwyl.
Mae Morgan Thomas yn Swyddog Digwyddiadau gyda Chyngor Wrecsam, ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r Brifwyl i'r ddinas.
Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal ddiwethaf yn Wrecsam yn 2011, ac mae llawer o bethau wedi newid yno ers hynny yn ôl Morgan.
"Ma' lot 'di newid yn Wrecsam dros yr 14 mlynedd diwethaf, ma’r diwylliant wedi tyfu, ma’ twristiaeth ‘di tyfu trwy linciau efo’r clwb pêl-droed, a ma’r ardal wedi datblygu lot yn aml-ddiwylliannol," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ma’ ‘na lot o bethe gwych yn digwydd, ma’r digwyddiade sy’n dod i Wrecsam ar lefel uwch na oedden nhw ryw 10 mlynedd yn ol.
"Ma’ pethe wedi datblygu lot a ‘dan ni’n edrych ymlaen at gael yr Eisteddfod yn Wrecsam a dwi’n meddwl fydd hi’n bigger and better yn ‘de!"
'Cyffro'
Er yr heriau, mae Morgan yn credu bod yr Eisteddfod yn gyfle i gynyddu y nifer o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.
"Yn amlwg, ma’ ‘na herie wrth gwrs, ma’ wrth ymyl y ffin, ma’ ‘na herie efo’r iaith Gymraeg ond ma’ rwbath fel yr Eisteddfod yn rhoi cyfle i ni ddathlu’r iaith a chynyddu nifer y siaradwyr a thrwy ddigwyddiad diwylliannol," meddai.
"Yn fy marn i, dyna’r ffordd ore o gynyddu hynny a chreu bach o gyffro a balchder yn yr iaith felly ia gobeithio, y gwaddol fydd mwy o siaradwyr Cymraeg a mwy o bobl isio dysgu Cymraeg."
Gyda'r cyffro am y clwb pêl-droed yn Wrecsam ar hyn o bryd, a Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn ymwelwyr cyson, mae'r Eisteddfod yn gyfle i'r cymunedau Cymraeg yn yr ardal i ddathlu'r iaith yn ôl Morgan.
"Ma’r Pwyllgor Gwaith y ‘Steddfod ‘di bod yn weithgar ofnadwy, ma’ ‘na gymuned cryf iawn ac ardaloedd cryf iawn fatha Rhos a Glynceiriog sydd wirioneddol yn dathlu’r iaith Gymraeg," meddai.
"Ma’n rhoi cyfle i bawb ddod at ei gilydd ag efo’r gôl o gael yr Eisteddfod yn Wrecsam.
"Dwi’n meddwl bod o’n rhoi cyfle i bobl ifanc a phobl sydd erioed wedi blasu’r iaith Gymraeg neu’r 'Steddfod fod yn rhan ohoni hefyd felly ma’n mynd i fod yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr digwyddiade Wrecsam."
'Gwneud rhywbeth am yr heriau'
Mae Morgan yn gweld tebygrwydd rhwng ardal yr Eisteddfod bresennol, Rhondda Cynon Taf, a Wrecsam.
"Ma’ gweld be’ ma Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi neud o ran codi’r pres yna a hitio targed nhw o £450,000 yn rhoi gobaith i mi fedran ni neud o," meddai.
"‘Dan ni’n ardaloedd eitha tebyg mewn ffordd, ma’ Rhondda Cynon Taf yn eitha tebyg i Wrecsam o ran demograffeg a lefel siaradwyr Cymraeg a’r economi felly dwi yn gweld hi’n bosib.
"Wrth gwrs, ma’ ‘na herie efo’r iaith hefyd ond ma’r ‘Steddfod yn rhoi’r cyfle i ni roi mwy o gyfle i bobl ddysgu’r iaith a chael cyfleoedd so fydd hi’n gyfle i ni edrych ar yr herie yna a neud wbath amdanyn nhw dwi’n meddwl."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1822656950389084281
'Cynhwysfawr'
Wrth longyfarch criw Eisteddfod Rhondda Cynon Taf am "wythnos wych" dywedodd Llinos Roberts, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2025, bod "y bwrlwm wedi dechrau'n barod" yn Wrecsam.
Ychwanegodd fod ganddi "tîm da" o bobl yn paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y gogledd-ddwyrain a nododd bod gwersi i'w dysgu wrth feddwl am y Brifwyl nesaf.
"Mae wedi bod yn arbrawf gwneud Eisteddfod yn y parc ac yn ymyl y dre," meddai. "Dwi'n meddwl bod hi 'di bod yn arbrawf sy'n gweithio'n arbennig o dda."
Ei gobaith ydy cynnig Eisteddfod "gynhwysfawr" yn y gogledd, gan "efelychu" polisi Rhondda Cynon Taf o geisio denu siaradwyr Cymraeg newydd.
Daeth yr Eisteddfod i Wrecsam yn 2011 ond ers hynny gwelwyd newidiadau mawr yn y ddinas a bydd rhaid adlewyrchu hynny meddai.