Ail-agor rhan o stryd fawr Bangor am y tro cyntaf ers 18 mis

Ail-agor rhan o stryd fawr Bangor am y tro cyntaf ers 18 mis
Bydd rhan o Stryd Fawr Bangor yn ail-agor i geir ddydd Mercher am y tro cyntaf ers 18 mis.
Bu'n rhaid cau'r stryd ar ôl tân mewn bwyty ac yn ôl rhai busnesau ar y stryd mae wedi bod yn anodd denu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod.
'Rhwystr'
"Ma' di bod yn anodd iawn, does 'na ddim dwy ffordd amdani," meddai Carys Davies o gwmni So Chic.
"Dwi'n meddwl fod o'n ddychrynllyd be sy' di digwydd, a ma'r oedi 'di bod bron yn annioddefol i fod yn onest.
"Di trafnidiaeth ddim wedi medru dod i fyny a tydi pobl ddim 'di ffeindio hi'n rhwydd i ddod i fyny, enwedig pan odd sgaffold mawr i fyny, odd o fel rhwystr".
"'Da ni fwy blin i'r gwaith gymryd blwyddyn a tri mis i ddechrau 'na ddim byd," ychwanegodd Tony Owen o gwmni More Than Beds, sydd â siop ar y stryd.
Mae Cyngor Gwynedd wedi diolch i fusnesau am eu cydweithrediad.