Gwyliwch: Cynulleidfa'r pafiliwn ar eu traed wrth i Noel Thomas gael ei urddo
Gwyliwch: Cynulleidfa'r pafiliwn ar eu traed wrth i Noel Thomas gael ei urddo
Roedd cynulleidfa pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ar eu traed wrth i Noel Thomas gael ei urddo i Orsedd y Beirdd fore Gwener.
Clywodd yr Archdderwydd fod Noel Thomas wedi "gwasanaethu ei gymuned yn gydwybodol ac anhunanol am flynyddoedd lawer fel is-bostfeistr a chynghorydd sir".
Roedd yn un o 49 o bobl a gafodd eu hurddo i'r Orsedd yn y seremoni.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1821897203545166097
Cafodd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys Môn, ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon.
Fe gafodd y cyn is-bostfeistr ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o’i gyfrifon.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.
Cafodd ei euogfarn ei gwrthdroi yn 2021.
Yn siarad ar raglen Eisteddfod S4C wedi iddo gael ei urddo, dywedodd Mr Thomas ei fod yn "glod mawr".
"Ac i fod ymysg rhai o'r bobl 'ma sydd wedi cael yr un fath â fi heddiw".
"Ac i feddwl mod i wedi gorfod disgwyl ugain mlynedd os lici di, a wnes i 'rioed meddwl byswn i'n mynd ar y stage 'na."