Eisteddfwd? Gofyn i garafanwyr beidio symud eu ceir ar ôl glaw trwm
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi gofyn i garafanwyr beidio â symud eu ceir am y tro oherwydd y mwd.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses fod gyda nhw system goleuadau traffig ar gyfer y Maes Carafanau a’i fod ar hyn o bryd yn ‘goch’.
Y nod meddai oedd sicrhau fod pawb yn gallu symud eu carafanau a’u ceir allan o’r maes carafanau ddydd Sul.
Roedd glaw trwm ddydd Iau yn golygu bod y tir yn y Maes Carafanau wedi mynd yn wlyb a mwdlyd iawn.
Dywedodd Betsan Moses eu bod nhw hefyd wedi gwneud rhywfaint o “waith cynnal a chadw” ar y maes carafanau.
“Be ydan ni wedi dweud ydi i bobl beidio symud eu ceir fel ein bod ni’n gallu gwarchod e ar gyfer pan fydd pobl eisiau gadael y Maes,” meddai.
“Mae gyda ni yn y Maes Carafanau system goleuadau traffig – gwyrdd, oren a choch.
“Daeth coch yn weithredol am 2pm bnawn ddoe dim ond er mwyn diogelu pobl a hefyd da ni’n ymwybodol y bydd ‘na gannoedd o garafanau angen symud fore Sul.
“Cadw’r tir ‘na mor berffaith â phosib.”
Ychwanegodd: “Mae tywydd yn gallu creu gwahaniaeth ond mae’n rhaid i ni dalu teyrnged i’r gweithwyr Maes.
“Pan ydan ni’n llochesu maen nhw allan yno yn gweithio.”
Glaw
Daw wedi i’r Eisteddfod Genedlaethol orfod gohirio perfformiadau ar Lwyfan y Maes nos Iau oherwydd y tywydd.
Mewn datganiad dywedodd yr Eisteddfod: “Oherwydd y tywydd gwael, rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i geisio ffeindio llwyfannau addas i symud artistiaid Llwyfan y Maes."
Meinir Gwilym oedd i fod i gloi'r noson ym Mharc Ynysangharad ar y llwyfan, cyn cael ei symud i’r Pafiliwn.
Fe fydd Eädyth yn perfformio ddydd Sadwrn yn lle nos Iau.