Dirgelwch y Fedal Ddrama: Angen ‘parchu cyfrinachedd’ medd yr Eisteddfod
Dirgelwch y Fedal Ddrama: Angen ‘parchu cyfrinachedd’ medd yr Eisteddfod
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Betsan Moses wedi dweud bod rhaid “parchu cyfrinachedd” yn y penderfyniad i ddiddymu cystadleuaeth y Fedal Ddrama.
Roedd y Fedal Ddrama i fod i gael ei dyfarnu yn y Pafiliwn am 16.00 ddydd Iau ond cyhoeddodd yr Eisteddfod o’r llwyfan bryd hynny na fyddai'r seremoni yn cael ei chynnal.
“Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar ôl cwblhau’r broses o feirniadu’r Fedal Ddrama, daethpwyd i’r penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni,” medden nhw.
“Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn."
Ni wnaeth yr Eisteddfod ymhelaethu ar y rhesymau y tu cefn i'r penderfyniad.
Wrth drafod y penderfyniad fore Gwener dywedodd Betsan Moses y bydd newidiadau yn sicrhau nad oes rhaid gwneud penderfyniad o’r fath eto.
“Mae yna ddatganiad allan yna, fel nodon ni mi aethon ni drwy’r broses ac yna daeth i’r amlwg fod rhaid i ni wneud penderfyniad i atal y gystadleuaeth,” meddai wrth Radio Cymru.
“Fel y’n ni’n gwneud bob blwyddyn fe fyddwn ni yma yn adolygu ac fe fyddwn ni’n adolygu ein prosesau ni a’n gweithdrefnau ni fel rhan o’r adolygu yna yn dilyn y penderfyniad eleni.
“Mae nifer o bobol wedi rhoi ryw scenarios i fi ar hyd y Maes ddoe. Mae ‘na ddrama yn cael ei greu ar y Maes yma.
“Beth sy’n bwysig ydi ein bod ni’n parchu'r broses a hefyd yn parchu cyfrinachedd a’n bod ni fel corff wedyn yn gallu adolygu a rhoi pethau yn eu lle er mwyn sicrhau bod yna ddyfodol llewyrchus i’r ddrama.
“Fe fyddwn ni’n gwarantu bod ein prosesau ni yn y dyfodol yn gwarantu nad oes rhaid gwneud penderfyniad fel hyn eto - gobeithio.”
‘Dryswch’
Dywedodd cyn enillydd y Fedal Ddrama, Cefin Roberts ei fod yn eistedd yn y pafiliwn yn barod am y seremoni ac yn teimlo “gwacter yn fwy na’ siom”.
“Ond wrth i amser fynd yn ei flaen mae pawb yn teimlo dryswch ac mae’n ofynnol i’r Steddfod roi dipyn bach mwy o eglurhad i bobl erbyn hyn.”
“Swn i’n tybio bod ‘na rai pobl erbyn hyn ar ganol creu sydd ddim yn mynd i wybod beth sy’n mynd i ddigwydd.
“Dyna mae pobl angen ei wybod yn fwy na dim.
“Mae’r geiriad yn niwlog iawn ac mae wedi peri dryswch i bawb.
“Mae’n rhaid i’r Eisteddfod sylweddoli nad ydi hwn ddim yn mynd i fynd o ‘na nes ceith y gynulleidfa well eglurhad.
“Mae’r pethau rhyfeddaf wedi eu dweud felly mae angen rhoi stop ar rheini hefyd.”
‘Ffantasiol’
Dywedodd Bethan Mair sy’n aelod o aelod o bwyllgor llên yr Eisteddfod fod peidio â chynnig esboniad wedi “esgor ar filiynau o syniadau gwallgo’ a gwirion”.
Roedd y penderfyniad yn “hollol ddigynsail” yn hanes yr Eisteddfod, meddai.
“Dw i wedi bod yn mynd drwy’r parameters - tasai rhywun ddim yn deilwng fe fyddech chi’n cael senario nos Fawrth, gyda’r seremoni yn bwrw ymlaen,” meddai.
“Tasai’r enillydd trwy ryw anffawd yn sâl neu hyd yn oed wedi marw fe fyddech chi’n cael cadair ddu.
“Mae beth sydd wedi digwydd heddi, lle maen nhw nid yn unig heb fwrw ymlaen, ond wedi diddymu'r gystadleuaeth - fydd na ddim sôn am y Fedal Ddrama yn y cyfansoddiadau hyd yn oed.
“Felly mae’r Eisteddfod yn gwybod fod hyn yn yr arfaeth ers wythnosau os nad mis neu ddau.
“Mae dweud cyn lleied dwi’n meddwl yn mynd i esgor ar filiynau o syniadau gwallgo’ a gwirion.
“Dwi’n credu dylen ni fod yn cael mwy o wybodaeth.
“Mae’r Eisteddfod yn perthyn i ni gyd. Dwi ar Gyngor yr Eisteddfod a’n aelod o Bwyllgor Llên Ganolog yr Eisteddfod. Do’n i’n gwybod dim am hyn.
“Mae rhai o’r damcaniaethau dw i wedi eu clywed mor ffantasiol dydyn nhw ddim gwerth eu hadrodd ar y radio.”
Mae’r gystadleuaeth yn gwobrwyo cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd, a’r beirniaid eleni oedd Mared Swain, Geinor Styles a Richard Lynch.