Newyddion S4C

Rhagolwg gemau ddydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Sgorio 10/08/2024
Penybont v Y Barri

Mae’r tymor newydd wedi cyrraedd a bydd timau'r Cymru Premier JD yn gobeithio am ddechreuad da i'r tymor.

Y Barri v Y Bala | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Barri wedi bod yn brysur dros yr haf yn cryfhau’r garfan gyda’r ychwanegiad diweddaraf, Robbie Willmott yn un fydd yn sicr yn cyffroi selogion Parc Jenner.

Chwaraeodd Willmott bron i 300 o gemau i Gasnewydd dros gyfnod o naw tymor a bydd ei brofiad yn allweddol os yw’r Barri am geisio cystadlu am le yn y Chwech Uchaf eleni.

Roedd yna dorcalon i’r Bala’n Ewrop dros yr haf gyda’r clwb yn colli yn yr amser ychwanegol yn erbyn Paide Linnameeskond o Estonia yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA.

Gorffennodd Y Bala’n drydydd y tymor diwethaf a dyna fydd y targed unwaith yn rhagor i dîm Colin Caton, a gyda Louis Robles a Lassana Mendes wedi dychwelyd i’r llinell ymosodol bydd disgwyl i’r Bala fod yn fygythiad ym mhen ucha’r tabl.

Roedd Y Barri ychydig yn lwcus i drechu Llanelli ar giciau o’r smotyn yng Nghwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf, ac mae’r Bala wedi camu ymlaen hefyd ar ôl gêm agos yn erbyn Rhuthun gyda’r gŵr ifanc 17 oed, Thomas Hughes yn sgorio unig gôl y gêm i Hogiau’r Llyn.

Y Fflint v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Fflint wedi esgyn yn syth yn ôl i’r Cymru Premier JD ar ôl un tymor yng Nghynghrair y Gogledd.

Treffynnon oedd pencampwyr Cynghrair y Gogledd 2023/24, ond gan iddyn nhw fethu â  sicrhau trwydded i esgyn, mae’r Fflint, orffennodd yn 2il, wedi esgyn yn eu lle.

Bydd hi’n ddifyr gweld sut bydd Met Caerdydd yn perfformio eleni ar ôl ffarwelio gydag Emlyn Lewis a Kyle McCarthy dros yr haf, dau amddiffynnwr sydd wedi bod yn allweddol i’r clwb ers eu dyrchafiad yn 2016.

Sgoriodd Lewis Rees yn y ddwy gêm yn erbyn Y Fflint yn nhymor 2022/23 wrth i’r myfyrwyr ennill 1-0 ym mis Medi cyn cael gêm gyfartal 1-1 ar Gae-y-Castell ym mis Rhagfyr.

Collodd Y Fflint o 5-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd yng Nghwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf, ac roedd angen gôl hwyr gan Lewis Rees i sicrhau buddugoliaeth o 3-2 i Met Caerdydd oddi cartref yn erbyn Llanilltud Fawr.

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.