Y Cymru Premier JD yn dychwelyd
Mae’r tymor newydd wedi cyrraedd a bydd y cyfan yn dechrau nos Wener gyda darbi’r canolbarth rhwng yr unig ddau glwb sydd wedi bod yn holl bresennol ers ffurfio’r gynghrair yn 1992.
Y Drenewydd v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45
Mae hi wedi bod yn haf o newidiadau mawr i’r Drenewydd wedi i’r clwb fethu â chyrraedd Ewrop ar ôl gwneud hynny am y ddau dymor blaenorol.
I gael parhau i chwarae’n Ewrop mae’r amddiffynwyr Ryan Sears a Matthew Jones wedi gadael Parc Latham am Gaernarfon, tra bod Louis Robles wedi dychwelyd i’r Bala.
Bydd Aberystwyth yn gobeithio osgoi tymor arall tua’r gwaelodion, gyda’r Gwyrdd a’r Duon yn llwyddo i ddianc rhag y cwymp ar y diwrnod olaf am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r Drenewydd ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth (ennill 5, cyfartal 1), ond roedd y gemau’n rhai agos rhwng y clybiau’r tymor diwethaf gyda gêm ddi-sgôr ar Barc Latham ym mis Awst, cyn i Matthew Jones sgorio unig gôl y gêm i’r Robiniaid yng Nghoedlan y Parc ym mis Tachwedd.
Bydd Scott Ruscoe’n gobeithio gall ei dîm ymateb yn syth ar ôl colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Caernarfon yng Nghwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf, tra bod Aberystwyth ymlaen i’r rownd nesaf yn dilyn buddugoliaeth o 2-0 ym Mae Colwyn.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru