Newyddion S4C

Y Prif Weinidog yn rhybyddio'r heddlu i aros yn ‘wyliadwrus iawn’ dros anhrefn

09/08/2024
Keir Starmer

Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud bod cyfiawnder cyflym, gan gynnwys dedfrydu, wedi atal anhrefn mwy treisgar.

Dywedodd Mr Starmer wrth gyfarfod brys Cobra fod angen i’r heddlu fod yn “wyliadwrus iawn”, medd asiantaeth newyddion PA.

Roedd yn siarad nos Iau ar ddiwedd diwrnod pan gafodd o leiaf dwsin o bobl eu carcharu am eu rhan yn nherfysgoedd dros y 10 diwrnod diwethaf. 

Mae disgwyl i ragor o bobl gael eu dedfrydu ddydd Gwener, gan gynnwys rhai ar deledu byw.

Dyma drydydd cyfarfod brys Cobra ers y terfysg cyntaf yn Southport ar 30 Gorffennaf ac ar ôl i lawer o brotestiadau arfaethedig fethu nos Fercher.

Yn gynharach dywedodd Mr Starmer fod digwyddiadau nos Fercher wedi troi allan yn “llawer gwell na’r disgwyl” a “bydd unrhyw un sy’n ymwneud ag anhrefn, beth bynnag maen nhw’n honni fel eu cymhelliad, yn teimlo grym llawn y gyfraith”.

“Mae’n bwysig i mi ailadrodd hynny oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gallu rhoi’r sicrwydd angenrheidiol i’n cymunedau yn y dyddiau nesaf, gyda llawer ohonyn nhw – rydw i wedi bod yn siarad â rhai y bore yma – yn bryderus iawn am y sefyllfa.”

Daeth ei sylwadau wrth i’r plentyn olaf a anafwyd yn y trywanu yn Southport a sbardunodd y terfysgoedd, gael ei ryddhau o’r ysbyty ddydd Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.