
Newid hinsawdd ‘yn bygwth cestyll Cymru’
Mae cestyll a thrysorau cenedlaethol eraill Cymru mewn "perygl difrifol a chyson" oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Dyna gasgliad adroddiad newydd fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac arbenigwr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd y comisiynydd, Derek Walker, bod rhaid i Gymru wneud mwy i warchod safleoedd treftadaeth gan gynnwys ei chestyll gwerthfawr rhag effeithiau newid hinsawdd.
Mae’r adroddiad Diwylliant a Risg Hinsawdd yn defnyddio mapiau llifogydd a safbwyntiau pobl leol ac arbenigwyr.
Mae dadansoddiad Dr Lana St Leger, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, fel rhan o’r adroddiad yn datgelu bod gan Gymru fwy na 30,000 o safleoedd diwylliannol wedi’u mapio, ac mae’n amlygu bod:
- 4% o’r rhain yn cyffwrdd â’r Parth Llifogydd Môr neu o fewn y Parth Llifogydd Môr, gan gynnwys Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain Fawr, yng Nghonwy
- 12% yn cyffwrdd â’r Afon neu o fewn y Parth Llifogydd Afon, gan gynnwys Lido Cenedlaethol Cymru ym Mhontypridd, a Phont Holt Wrecsam ac olion Castell Holt.
Dywedodd Derek Walker ei fod yn annog cyrff cyhoeddus i “ddiogelu ein trysorau cenedlaethol ac achub ein dyfodol diwylliannol fel y gall plant yfory redeg o gwmpas cestyll, yn hytrach na darllen am nhw mewn llyfrau stori neu eu gwylio mewn fideos”.

‘Perygl’
Mae argymhellion a chanfyddiadau yn yr adroddiad, sydd hefyd yn rhybuddio am golli treftadaeth anniriaethol fel straeon a’r iaith Gymraeg, wedi’u cynhyrchu gan Dr St Leger.
Mae'r canfyddiadau’n cynnwys:
- Gall dadleoli cymunedau iaith oherwydd newid yn yr hinsawdd effeithio ar y graddau y bydd y Gymraeg yn cael ei chlywed a’i defnyddio, gan effeithio ar darged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
- Risgiau i gymunedau Cymraeg eu hiaith a seilwaith addysgol gan gynnwys risg uwch i ysgolion Cymraeg eu hiaith, o ganlyniad i dywydd eithafol a chynnydd yn lefel y môr.
- Gallai colli rhywogaethau bywyd gwyllt ac arferion amaethyddol traddodiadol olygu colled i derminoleg ac arferion Cymraeg.
Dywedodd Dr St Leger: “Rydym mewn perygl o golli ein treftadaeth ddiwylliannol oherwydd newid hinsawdd.
“Er bod gennym ni gyfraith sy’n arwain y byd sy’n deddfu ar gyfer amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol, nid oes digon yn cael ei wneud i ddiogelu diwylliant a threftadaeth er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu cyffwrdd, teimlo a gweld.
“Mae’r ymchwil hwn yn amlygu pwysigrwydd bod angen i lais cymunedol fod wrth galon hyn ac mae angen i ni hefyd osod diwylliant wrth galon ein penderfyniadau gwleidyddol mewn perthynas â newid hinsawdd.”
Llun: Castell Ogwr gan Stuart Herbert dan drwydded Comin Creadigol.