Cyhuddo dyn o Sir y Fflint o gyfathrebu'n faleisus mewn cysylltiad â 'thensiynau rhyngwladol'
Mae dyn o Sir y Fflint wedi’i gyhuddo o gyfathrebu’n faleisus mewn cysylltiad â “thensiynau rhyngwladol sy’n parhau,” medd Heddlu Gogledd Cymru.
Fe gafodd Richard David Williams, 34 oed o Faes Deri, Ewlo ei gyhuddo ddydd Iau gyda disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa, meddai’r llu.
Daw wedi i ddeunydd gael ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, a hynny mewn cysylltiad â’r “tensiynau” sydd yn bodoli yn y wlad ar hyn o bryd, ychwanegodd.
“Mi fyddwn ni’n parchu proses y llys ac atal rhag gwneud sylw pellach ynglŷn â’r achos yma, yn ystod yr adeg yma,” medd datganiad gan Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Hoffwn atgoffa’r cyhoedd yng ngogledd Cymru ein bod yn cymryd unrhyw honiad o drosedd, boed wedi’i gyflawni ar-lein neu’n bersonol, o ddifri.
“Byddwn yn dod o hyd i’r rheiny sydd yn rhannu negeseuon mewn modd all fod yn anghyfrifol ac yn droseddol, gan gynnal ymchwiliad a’u cyhuddo pan fo’n briodol.”