Newyddion S4C

Cynyddu presenoldeb yr heddlu ar strydoedd yn y gorllewin a'r canolbarth wedi protestiadau treisgar

08/08/2024
Heddlu Dyfed-Powys

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi y bydd swyddogion yn fwy gweledol ar strydoedd ar hyd a lled y gorllewin a’r canolbarth yn dilyn achosion o anhrefn mewn mannau o'r DU. 

Bydd swyddogion yr heddlu bellach yn bresennol mewn cymunedau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys – a hynny er mwyn “rhoi sicrwydd” i gymunedau, yn ogystal â dangos “presenoldeb gweladwy” y llu. 

Fe ddaw wedi i gannoedd o bobl gael eu cyhuddo o droseddau ddydd Mercher yn dilyn protestiadau treisgar mewn sawl rhan o Loegr yn ystod yr wythnos diwethaf, ac mae protestiadau ac arestiadau o’r un fath hefyd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon. 

Fe ddechreuodd y protestiadau ar ôl i dair o ferched gael eu llofruddio yn Southport.

Mae sawl person wedi cael eu dedfrydu i garchar am eu rhan yn yr anrhefn.

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Ifan Charles, mai “cam-wybodaeth” oedd un o’r prif resymau dros y protestiadau treisgar, a fu’n annog pobl i “gymryd gofal” wrth ddarllen gwybodaeth ar y we. 

Ychwanegodd nad yw’n disgwyl protestiadau treisgar o fewn y pedwar sir y mae Heddlu Dyfed-Powys yn eu gwasanaethu, ond bod lluoedd yr heddlu yn barod i “fynd i’r afael” ag unrhyw drais neu anhrefn. 

“Ni fyddwn yn goddef trais na chasineb sydd yn targedu unrhyw un ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol - nac am unrhyw reswm arall o gwbl," meddai.

“Ein neges yw meddwl ddwywaith cyn gweithredu.”

Dywedodd hefyd bod yr heddlu yn parchu hawl pobl i brotestio ac y byddan nhw bob amser yn ceisio “hwyluso protest heddychlon cyfreithiol” wrth barchu hawliau pobl eraill a chadw’r cyhoedd yn ddiogel. 

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddau Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn: “Rwy’n cefnogi ymdrechion ymrwymedig Heddlu Dyfed-Powys wrth iddyn nhw ddiogelu ein cymunedau. 

“Rwy’n annog pawb i gydweithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod ein strydoedd yn parhau’n ddiogel i bawb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.