Newyddion S4C

Gohirio perfformiadau Llwyfan y Maes yn yr Eisteddfod oherwydd y tywydd gwael

08/08/2024
Llwyfan y Maes yn y glaw

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau na fydd perfformiadau ar Lwyfan y Maes nos Iau oherwydd y tywydd.

Mewn datganiad dywedodd yr Eisteddfod: “Oherwydd y tywydd gwael, rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i geisio ffeindio llwyfannau addas i symud artistiaid Llwyfan y Maes."

Meinir Gwilym oedd i fod i gloi'r noson ym Mharc Ynysangharad ar y llwyfan.

Mae ei pherfformiad hi bellach wedi ei symud i'r Pafiliwn.

Fe fydd Eädyth yn perfformio ddydd Sadwrn yn lle nos Iau.

Mae’r newidiadau i gyd wedi eu nodi ar wefan yr Eisteddfod.

Roedd pyllau o ddŵr i'w gweld ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau oherwydd y glaw di-baid.

Roedd pyllau mawr tu allan i Lwyfan y Maes lle byddai'r dorf yn gwylio'r perfformio.

Mae rhagolygon y tywydd yn addo tywydd braf ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.