Cadwyn a Ffred Ffransis yn dathlu 50 mlynedd o fasnachu ar yr Eisteddfod
Cadwyn a Ffred Ffransis yn dathlu 50 mlynedd o fasnachu ar yr Eisteddfod
Mae'r cwmni Cadwyn yn dathlu 50 mlynedd o deithio o Eisteddfod i Eisteddfod yn gwerthu nwyddau i genedlaethau o blant a theuluoedd.
Eisteddfod yr Urdd yn y Rhyl oedd y gyntaf i Ffred a Meinir Ffransis fynychu yn 1974.
Ers hynny maen nhw wedi bod yn bresennol yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol ym mhob cwr o Gymru.
Wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd roedd yr Eisteddfod gyntaf honno yn arwyddocaol iddo.
"Mae 'na amserau gwlyb, amserau heulog, amseroedd stormus wedi bod yn hanes Cadwyn," meddai Ffred wrth Newyddion S4C.
"Mae'r flwyddyn gynta'n sefyll allan achos oedd 'Steddfod yr Urdd gyntaf 1974 yn Rhyl, y'n nhre enedigol a 'Steddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin, lle dwi'n byw.
"Lle cychwyn da, a fel rhyw uchafbwynt nawr, 50 mlwyddiant 'dan ni'n dod at rywle hollol unigryw, Parc Ynysangharad, dan gofgolofn cyfansoddwyr yr anthem
genedlaethol, mewn lle arbennig fel hyn, lle ni'n gweld adfywiad."
O fygiau i byrsiau, costeri a chrysau t, mae’r cwmni yn creu llawer o nwyddau sydd yn cynnwys enwau Cymreig arnynt.
Mae ymateb pobl i weld eu henwau yn rhoi gwên ar wyneb Ffred.
"Ma' pobl oedd methu cael enwau Cymraeg ar nwyddau yn y gorffennol, o flwyddyn i flwyddyn.
"Erbyn hyn mae gynnon ni, nid yn unig pobl yn dod mewn a deud, 'o, o'dd mam wedi cal un o rain' ond deud 'o'dd nain neu mam-gu wedi cael un o rain'.
"Ni'n gweld y datblygiad, y llif trwy'r genedlaethau felly."
'Uchafbwynt y flwyddyn'
Er bod Ffred a Meinir Ffransis wedi ymddeol, nid ydyn nhw wedi cilio’n llwyr o’r busnes ac maen nhw wedi bod ar stondin Cadwyn ym Mhontypridd yr wythnos hon.
Mae Ffred yn hoff o gwrdd â phobl yn stondin Cadwyn ar y maes ac mae'n dangos pam ddechreuodd y busnes, meddai.
"Ma' cyfarfod y bobl fan hyn, ma' bobl yng nghanol y peth achos, tu allan i faes y 'Steddfod ma' llawer mwy o waith yn mynd ar-lein, mae'n fwy amhersonol.
"Ond fan hyn, 'da ni'n cyfarfod â'r bobl, yn sylweddoli pam 'da ni'n neud y gwaith.
Gweld plant bach yn gweld eu henwau'n dod a gwên ar eu hwynebau nhw. Fan hyn ma' pobl sydd yng nghanol popeth."
Wrth iddo edrych ymlaen at y dyfodol, ei obaith yw bydd Cadwyn yn parhau i ddilyn yr Eisteddfod o Fôn i Fynwy.
"Bydd Cadwyn siŵr o fod dal 'ma, gan obeithio bydd y 'Steddfod'ma.
"Y bobl yma sydd yn rhedeg Cadwyn nawr ac yn y blaen, dwi ond yma i helpu allan a bod yn y ffordd!"