Cyflwyno cast newydd Deian a Loli ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
Bydd cast un o gyfresi S4C mwyaf poblogaidd i blant yn cael eu cyflwyno ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Sadwrn.
Mewn digwyddiad arbennig ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd, fe fydd cast newydd Deian a Loli yn cael eu cyflwyno yn safle S4C am 14.00.
Dau actor ifanc o Ynys Môn sydd wedi llwyddo i gipio rhannau Deian a Loli, sef Brychan Aled Llewelyn Davies, sy’n 10 oed o Rostrehwfa yn Llangefni, a Magi John Jones, 9 oed o Landegfan.
Fe lwyddodd y pâr i ddod i’r brig wedi i dros 400 o ddarpar actorion ifanc gael eu cyfweld ar gyfer chwarae’r efeilliaid direidus â phwerau hudol.
Dywedodd yr actorion ifanc eu bod nhw’n “andros o hapus” o gael chwarae’r cymeriadau adnabyddus, a’u bod yn “edrych ymlaen” at ymddangos ar y sgrin fach.
“Nes i wisgo fel Loli ar gyfer Diwrnod y Llyfr yn yr ysgol pan o’n i’n ryw dair neu bedair oed, felly alla i ddim coelio ‘mod i’n cael bod yn Loli go iawn rŵan,” meddai Magi.
“Tydw i heb wneud llawer o actio cyn hyn, er, o’n i’n ecstra ar Rownd a Rownd pan o’n i’n fabi,” ychwanegodd.
Dywedodd Brychan: “Roedd o’n deimlad gwych i gael fy newis i’r rhan. Bob tro ro'n i mynd drwadd ym mhob rownd, roedd o'n fwy a mwy cyffrous. Ro'n i'n nerfus achos bod ‘na lot o actorion da yno. Dwi'n teimlo'n andros o lwcus.
“Dwi'n edrych ymlaen i weld fy mrawd bach a fy nghefnder a chyfnitherod bach yn fy ngwylio fi ar y teledu achos maen nhw wrth eu boddau hefo Deian a Loli.”
Cymryd yr awenau
Mae’r pâr yn cymryd yr awenau oddi wrth Lowri Llewelyn a Moi Williams, sy'n gadael y rhaglen ar ôl tyfu'n rhy hen i'r cymeriadau.
Aled Pugh a Lily Beau fydd yn chwarae rhan rhieni'r efeilliaid, gan gymryd lle Fflur Medi Owen a Siôn Eifion.
Hon yw’r bumed gyfres, a’r pumed teulu i ymddangos yn y rhaglen.
Bydd y pedwarawd newydd i’w gweld ar y sgrîn am y tro cyntaf pan fydd y gyfres newydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd.