Newyddion S4C

Maes B: Trefnwyr yn cyflwyno mesurau diogelwch pellach wedi trafferthion y llynedd

08/08/2024

Maes B: Trefnwyr yn cyflwyno mesurau diogelwch pellach wedi trafferthion y llynedd

Dydd Mercher Eisteddfod a chychwyn Maes B yn swyddogol.

Ydy, mae'n binacl yr haf i gannoedd o bobl ifanc Cymru.

"Dw i'n gyffrous am Maes B.

"Miwsig, gweld pobl ac amser da."

"Fi heb fod o'r blaen ond aeth ffrindiau fi i Foduan blwyddyn diwetha ac wedi joio, so fi'n rili edrych 'mlaen."

Llynedd ym Maes B roedd rhaid i rai giwio am oriau cyn mynd mewn i'r safle.

Fe wnaeth swyddogion diogelwch ddod o hyd i gyffuriau a chyllell wrth y fynedfa.

Mae'r profiad yn golygu nad oedd y ddau yma am fentro i Bontypridd.

"Oedd cwpl o bobl yn dod lan yn gofyn os o'n i'n cael cyffuriau neu os o'n i'n gwybod am rywun 'da cyffuriau.

"Dyw e ddim yn rhywbeth chi'n expectio pryd chi yn yr Eisteddfod."

"Ar ôl dwy awr roedd y babell wedi cael ei gicio ac ochr draw y Maes.

"Ges i ddim profiad grêt gyda'r pebyll yn cael eu cicio lawr."

Mae'r trefnwyr wedi cyflwyno mesurau diogelwch pellach.

Yn ogystal â sicrhau bod mwy o staff ym Maes B eleni.

"'Dan ni'n cymryd manylion pawb sydd dan 18.

"Mae gennym ni fanylion cyswllt argyfwng ar eu cyfer nhw.

"Mae'r holl staff tocynnau a chriw lles yn ymwybodol o sut i gael gafael ar bobl petai angen.

"Mae hwnna'n rhywbeth ni wedi bod yn gwneud.

"'Dan ni'n cymryd y camau i roi awyrgylch arbennig o saff."

Mae 'na lot o bobl ifanc wedi bod yn cyrraedd Maes B heddiw a ddoe i weld un o uchafbwyntiau'r calendr cerddorol Cymreig.

Dyw'r Eisteddfod ddim wedi rhoi'r caniatâd i ni fynd yno i ffilmio.

"O'n i'n DJ yno neithiwr.

"Dim ond y DJ tent oedd ar agor. Mae'n cicio off heno.

"Oedd e'n dda, cool layout. Oedd e ddim mor brysur a 'ny.

"Fi'n disgwyl iddo fynd lot mwy prysur heddiw wrth ddechrau'n iawn."

O'r artistiaid i'r bobl ifanc, mae'r ŵyl yn plesio hyd yn hyn.

"Llynedd o'n i'n ciwio am four hours. Oedd e'n rough.

"O'dd pobl ddim yn neis a mess bobman.

"O'dd nhw'n mynd rownd a destroyio popeth."

Yw blwyddyn yma'n well?

"Ydy. Lot gwell. O'n i dim ond yn ciwio am hanner awr.

"Mae pawb lot mwy neis. Mae fe mwy organised. Really good."

"Dw i'n teimlo fel bod llai o bobl wedi dod blwyddyn yma.

"Mae 'na dal nifer uwch o bobl lleol sydd 'di dod.

"'Dan ni'n clywed mwy o acenion y de."

"Mae lot mwy llym o be dw i'n gweld. Definitely llai o broblemau."

Mae 'na wledd o gerddoriaeth yn disgwyl y bobl ifanc yma heno a'r trefnwyr yn gobeithio am ŵyl lwyddiannus a diogel.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.