'Creulon': Dyn a dynes yn euog o lofruddio dyn 65 oed ym Mae Colwyn
Mae dyn a dynes wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth “creulon” dyn 65 oed ym Mae Colwyn y llynedd.
Bu farw Mark Wilcox yn ystod oriau mân fore dydd Llun 21 Tachwedd 2023.
Cafodd ei ddarganfod yn farw, wedi ei drywanu a’i guro, mewn eiddo ar Bay View Road, yng nghanol y dref.
Fore Iau, cymerodd rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug tair awr a hanner i benderfynu bod Lauren Harris, 29 oed, o Fae Colwyn, a David Webster, 43 oed, o Widnes yn Sir Gaer, yn euog o’i lofruddiaeth.
Dywedodd y barnwr, Ustus Peperall: “Mae’r ddau ohonoch wedi’ch cael yn euog o lofruddiaeth greulon Mark Wilcox. Dim ond un ddedfryd yn ôl y gyfraith y gallaf ei phasio a bydd honno’n ddedfryd o garchar am oes.”
Bydd y barnwr yn ystyried y lleiafswm y bydd y rhaid i’r ddau i’w dreulio yn y carchar yn ystod y gwrandawiad dedfrydu wythnos nesaf. Mae’r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa.
Cafodd Thomas Whiteley, 33 oed, o Glos Emlyn, Hen Golwyn, yn ddi-euog o unrhyw drosedd.
Ychwanegodd y barnwr: “Rwyt ti’n gadael heb unrhyw feirniadaeth ar dy gymeriad.”
'Treisgar'
Roedd y bargyfreithiwr Andrew Ford KC, ar ran yr erlyniad, eisoes wedi dweud fod gan Harris euogfarnau blaenorol am ymosod, gan gynnwys clwyfo anghyfreithlon yn 2022, ble y cafodd cyllell ei ddefnyddio ar gyn-bartner mewn fflatiau yn Hen Golwyn.
Dywedodd Mr Ford ei bod wedi bod yn amddiffyn ei hun ond ei bod wedi ei chael yn euog oherwydd bod y grym a ddefnyddiwyd ganddi yn “ormodol ac anghyfreithlon.”
Chwaraewyd lluniau camera cylch cyfyng o ymosodiadau ganddi ar ddynion yng nghanol Wrecsam a Bae Colwyn. Dywedodd yr erlynydd fod gan Harris hefyd gyfres o euogfarnau am ladrad.
Roedd gan Webster record am drais hefyd. Nid oedd gan Mr Wilcox unrhyw euogfarnau.
Clywodd y rheithgor bod yr heddlu wedi eu galw i eiddo yn Bay View Road, ble cafodd Mr Wilcox ei ddarganfod mewn cadair, wedi ei drywanu a'i guro i farwolaeth. Roedd dadansoddiad fforensig wedi awgrymu nad y gadair oedd safle'r ymosodiad.
Roedd y tri wedi ffoi’r eiddo wedi’r ymosodiad yng nghar Mr Wilcox, cyn bod y cerbyd wedi gwrthdaro ag arwydd ffordd ger yr A55.
Ni roddodd Harris dystiolaeth.
Wrth agor yr achos dywedodd Mr Ford wrth y rheithwyr: “Digwyddodd fflachbwynt ar ôl rhai oriau o yfed a chymryd cyffuriau pan drodd digwyddiadau yn gas a threisgar yn sydyn.
“Roedd yn ymosodiad lle cafodd ei drywanu ddwywaith ac ymosod arno ag arf gan achosi anafiadau sylweddol a gwahanol.”