Disgwyl i Lys yr Eisteddfod benderfynu ar aelodaeth Huw Edwards o’r Orsedd
Disgwyl i Lys yr Eisteddfod benderfynu ar aelodaeth Huw Edwards o’r Orsedd
Mae disgwyl y bydd Llys yr Eisteddfod yn penderfynu a fydd Huw Edwards yn parhau yn aelod o’r Orsedd.
Dywedodd Cofiadur yr Orsedd, Christine James, fod gyda nhw “broses teg a chytbwys” o wneud hynny sydd eisoes wedi cychwyn.
Roedd Gorsedd Cymru wedi cwrdd ar faes yr Eisteddfod fore Iau. Fe fydd Llys yr Eisteddfod yn cwrdd ar y Maes yn ystod y prynhawn.
“Mewn materion fel hyn mae’r orsedd yn ddarostyngedig i lys yr eisteddfod,” meddai Christine James.
“Mae gan y llys broses deg a chytbwys sydd wedi cychwyn ac er tegwch i bawb a rhag cam arwain neb nid yw’n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.
“A byddwn yn ddiolchgar pe bai chi ddim yn camddyfynnu nac yn camddehongli'r sylwadau hyn ac rwy’n eich herio chi i ddarlledu'r sylwadau olaf hyn.”
Cafodd Huw Edwards ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, yn Nhregaron yn 2022.
Yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher diwethaf, cyfaddefodd iddo dderbyn delweddau anweddus o blant.
Roedd Huw Edwards wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp ac fe blediodd yn euog i'r holl gyhuddiadau.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.