Gŵr a gwraig wnaeth gwrdd ar fws yr Orsedd yn dathlu 40 mlynedd o briodas yn yr Eisteddfod
Mae pâr priod wnaeth gwrdd ar fws yr Orsedd yn dathlu 40 mlynedd o briodas yn yr Eisteddfod eleni.
Fe wnaeth Gwyn ac Alwena Lewis o Gaernarfon gwrdd yn Eisteddfod Abertawe 1982 a phriodi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan 1984.
Maen nhw wedi dod i’r Maes bob blwyddyn ers hynny ac yn dathlu eu priodas yn yr Eisteddfod bob blwyddyn.
“Mae’r peth yn mynd yn ôl dros 40 mlynedd - mi ydan ni’n dathlu pen-blwydd priodas Ruddem penwythnos dwytha ‘ma,” meddai Gwyn, a oedd yn fyfyriwr ar y pryd.
“Wedi cyfarfod fel mae’n digwydd bod ar fws yr Orsedd nol yn 1982 adeg Eisteddfod Abertawe.
“Adeg hynny roedd yr Orsedd yn gwisgo mewn ystafelloedd mewn ysgolion oedd gryn bellter o Faes yr Eisteddfod, ac yn cael ein bysio i mewn.
“A digwydd bod roedd 'na ddau ffrind i mi – roedden ni i gyd yn y Wisg Las – yn mynd ar y bws, yn mynd i’r Coroni.
“Ac mi aeth y ddau ffrind i eistedd gyda’i gilydd a fy ngadael i ar fy mhen fy hun. Felly roedd ‘na sedd wag.
“Roedd y bws ar fin cychwyn a dyma’r ferch ifanc yma yn rhuthro i mewn ac yn gweld sedd wag ac yn gofyn i mi a oedd yna rywun yn eistedd yno.”
‘Talu ar ei ganfed’
Dywedodd Alwena: “Digwydd bod doedd yna ddim ac roedd y bws ar fin cychwyn beth bynnag.
“Felly mi gafon ni dreulio gweddill y prynhawn hwnnw efo’n gilydd a sgwrsio a siarad ac mi ddatblygodd pethau o fan ‘nu .
“Roedd o’n syniad da iawn – er ar y pryd roedd o’n cymryd llawer iawn o’n diwrnod ni. Roedd o’n drefniant oedd yn mynd a diwrnod rywun yn gyfan gwbwl nol a malen o’r Steddfod ac i’r ysgol.
“Ond wrth gwrs mi dalodd ar ei ganfed mae’n rhaid i mi ddweud hynny!”
Dywedodd Gwyn: “Fe gawson ni sgwrs mwy na’r cyffredin i gael sgwrs, y ddau ohonon ni’n eistedd ochr yn ochr â’n gilydd.
“Ac mi wnaethon ni eistedd gyda’n gilydd ar y llwyfan os ydw i’n cofio’n iawn.”
‘Dathliad i’w gofio’
Dywedodd Gwyn Lewis bod y penderfyniad i briodi yn ystod Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan 1984 yn golygu eu bod nhw’n cael dathlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod bob blwyddyn.
“Mi ydan ni wedi cael dathliad efo’r plant neithiwr. Mae gyda ni dri o blant, Llŷr, Rhydian a Heledd, ac mae gyda ni bedwar o wyrion.
“ Mi aethon ni i dy Heledd ac fe gawson ni ddathliad i’w gofio yng nghwmni Math, Gwern, Ynyr a Nico.”
Mae'r cysylltiad gyda'r Orsedd dal yno heddiw, gyda Gwyn, darlithydd addysg ym Mhrifysgol Bangor, yn mynd yn ei flaen i fod yn drefnydd arholiadau'r Orsedd.