Newyddion S4C

Plas Tan-y-Bwlch ym Maentwrog yn cael ei roi ar werth am £1.2m

08/08/2024
Plas Tan y Bwlch

Mae Plas Tan-y-Bwlch ym Maentwrog ger Blaenau Ffestiniog wedi cael ei roi ar werth am £1.2m.

Cyn ei thrawsnewid yn ganolfan addysg gan gynnig amrywiaeth o gyrsiau preswyl ers bron i 50 mlynedd, roedd Plas Tan y Bwlch yn blasty gwledig.

Gyda 27 o ystafelloedd, mae 10 o bobl yn gweithio ar y safle erbyn hyn.

Mewn datganiad, dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod "wedi ceisio nifer o wahanol opsiynau yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf er mwyn darganfod model busnes fyddai yn lleihau’r gost i’r Awdurdod o gynnal canolfan Plas Tan y Bwlch.

"Mae’r Awdurdod yn awyddus i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Plas ond rhaid cydnabod bellach nad yw yn ein gallu i ariannu’r ganolfan ein hunain.

"Mae hyn o ganlyniad i doriadau sylweddol iawn yn ein cyllidebau a gydag ychwanegiad chwyddiant nid yw’n gynaladwy i’r busnes barhau ar y model presennol."

Mae'r plasty yn adeilad rhestredig Gradd II ac wedi ei restru yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyhoeddodd y Parc ym mis Chwefror eleni eu bod yn ystyried dyfodol y ganolfan astudiaeth, a hynny wedi i'r "pandemig, chwyddiant a llymder" effeithio ar y ganolfan yn y blynyddoedd diweddar gan olygu nad oedd modd iddynt ddatblygu canolfan hyfyw yno bellach.

Ychwanegodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Bu i’r Awdurdod hefyd benderfynu y byddai angen opsiwn pellach, os nad yw trafodaethau o’r fath yn llwyddiannus, ac i’r diben yma mae penderfyniad hefyd wedi ei wneud i hysbysebu’r ffaith ein bod yn agored i gynigion ar y farchnad agored.

"Mi fydd dyfodol hir dymor adeilad Plas Tan y Bwlch yn chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw benderfyniad gan yr Awdurdod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.