Newyddion S4C

‘Galwad i weddio’ Mwslimaidd yn cael ei darlledu ar Faes yr Eisteddfod ddydd Gwener

Bea Young

Bydd galwad i weddïo Mwslimaidd yn cael ei darlledu ar y Maes ddydd Gwener.

Daw wrth i wasanaeth yn Gymraeg gael ei gynnal yn y ‘mosg’ gyntaf o’i bath yn y Brifwyl.

Dywedodd Bea Young o'r grŵp Now in a Minute, grŵp sy'n gweithio i wella mynediad i Fwslemiaid yng Nghymru, ei bod yn gobeithio y bydd "y galwad i weddïo yn uchel iawn ar y Maes" a bod "croeso i bawb i ddod i weddïo".

Mae'r grŵp wedi bod yn cyd-weithio hefo Cyngor Mwslemiaid Cymru a Chanolfan Islam Prifysgol Caerdydd i greu gofod i Fwslimiaid ar y Maes ar Barc Ynysangharad.

Y nod yw bod y mosg a agorodd ddechrau’r wythnos yn ofod ble gall unrhyw berson, Mwslemiaid ai peidio.

Dywedodd Bea Young: "Man i weddïo oedd yr amcan gwreiddiol ond yn y misoedd diwethaf rydym wedi datblygu'r gofod fel man i ddathlu a thrafod hanes a thraddodiadau a'r ffaith bod Mwslemiaid yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg a bod ni'n cael ein gweld.

"Rydym wedi bod yma am gannoedd o flynyddoedd ac yn rhan o'r gymuned."

Ychwanegodd bydd y gwasanaeth yn digwydd am 13:00 dydd Gwener.

"Un o'r digwyddiadau rydyn ni’n edrych ymlaen ato yw'r gwasanaeth," meddai. 

"Rydym yn mynd i'r mosg fel arfer ar ddydd Gwener i gael gwasanaeth a gweddïo mewn cynulleidfa ac mae Imam yn rhoi pregeth.

"Yr wythnos yma bydd Imam yn dod i'r Maes ac am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod yn gwneud y gwasanaeth bron gyfan gwbl drwy'r Gymraeg.

"Bydd criw o Fwslemiaid o'r ardal yn dod fewn i weddïo, da ni'n gobeithio gwneud yr adhan, y galwad i weddïo yn uchel iawn ar y Maes i ddangos bod y gwasanaeth yn dechrau. 

“Bydd croeso i bawb i ddod am sgwrs a chai, sy'n fath o de.”

‘Cynhwysol’

Dywedodd Bea, sy'n wreiddiol o Lan Ffestiniog ger Blaenau Ffestiniog, eu bod wedi cael croeso cynnes ar y Maes.

Daw hynny yn sgil terfysgoedd diweddar a phrotestiadau gwrth-Fwslemaidd ar strydoedd rhai o drefi a dinasoedd Lloegr yn ddiweddar.

“Mae’n wych i deimlo bod ni’n rhan o’r Eisteddfod, a rhan o’r gymuned siaradwyr Cymraeg,” meddai.

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, eu bod yn awyddus i “gynrychioli pob elfen o’r gymuned, a bod yn Eisteddfod sy’n gwbl gynhwysol” a'i fod yn fwriad i barhau i drafod sut gellid datblygu'r berthynas ymhellach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.