Miloedd o brotestwyr gwrth-hiliaeth yn protestio ar draws Lloegr
Fe wnaeth miloedd o brotestwyr gwrth-hiliaeth brotestio yn heddychlon ar draws Lloegr nos Fercher.
Daeth hyn wedi wythnos o brotestiadau gwrth-fewnfudo, a gafodd eu hysgogi gan wybodaeth ffug ar ôl y trywanu yn Southport ar 29 Gorffennaf.
Cafodd ffenestri nifer o siopau eu gorchuddio mewn trefi a dinasoedd ar hyd y wlad wedi pryderon am ragor o brotestiadau treisgar a ddechreuodd yn Southport ar 30 Gorffennaf.
Ond yn y mwyafrif o lefydd, fe wnaeth protestiadau yn erbyn mewnfudo fethu â datblygu.
Bydd mwy o'r bobl sydd wedi cael eu harestio dros yr wythnos diwethaf yn ymddangos yn y llys ddydd Iau.
Cafodd tri dyn eu carcharu ddydd Mercher am hyd at dair blynedd ar ôl cyfaddef i achosi anhrefn treisgar wedi protestiadau yng nghanol dinas Lerpwl.
Nos Fercher, fe wnaeth nifer fawr o brotestwyr gwrth-hiliaeth ymgynnull mewn ardaloedd gan gynnwys Walthamstow, dwyrain Llundain, Bryste, Brighton, Lerpwl a Sheffield.
Yn ôl elusen Stand Up to Racism, fe wnaeth amcangyfrif o 25,000 o bobl brotestio yn heddychlon yn y strydoedd yn erbyn hiliaeth a thrais.
Roedd disgwyl i swyddogion baratoi i ymateb i fwy na 100 o brotestiadau oedd wedi eu trefnu a thua 30 gwrth-brotest ddydd Mercher, gyda phrotestiadau wedi'u disgwyl yn 41 o'r 43 llu heddlu yng Nghymru a Lloegr.