Newyddion S4C

'Proses wedi dechrau' yn achos aelodaeth Huw Edwards yn yr Orsedd

07/08/2024

'Proses wedi dechrau' yn achos aelodaeth Huw Edwards yn yr Orsedd

Aelodau Bwrdd yr Orsedd yn ymgynnull ar gyfer eu cyfarfod blynyddol ar Faes yr Eisteddfod gyda sylw mawr ar un o'u trafodaethau.

A ddylai Huw Edwards barhau i fod yn aelod?

Ar ôl i'r cyn-ddarlledwr bledio'n euog yn Llys y Goron, Westminster i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant fe ddywedodd yr Orsedd y byddan nhw'n trafod ei ddyfodol o fewn y sefydliad.

Ar ôl cyfarfod barodd dri chwarter awr, fe ddaeth yr aelodau allan.

"Cyfarfod Bwrdd yr Orsedd sy newydd fod, nid cyfarfod cyffredinol.

"Wrth gwrs, mae pethau'n gorfod mynd drwy'r cyfarfod cyffredinol.

"Bydda i'n rhyddhau rhywbeth ysgrifenedig nes ymlaen ond 'sgen i ddim sylw nawr. Diolch yn fawr."

Mewn datganiad byr, dywedodd yr Orsedd bod y broses wedi cychwyn ac na fyddai'n briodol i Orsedd Cymru wneud unrhyw sylw pellach tan i'r broses ddod i derfyn.

Ond mae elusen Plant yng Nghymru yn dweud y dylai'r broses fod yn gynt.

"Mae'n rhaid i sefydliadau cenedlaethol sicrhau bod ganddyn nhw'r prosesau ar waith i ymateb yn gyflym i amgylchiadau fel hyn."

Fe fydd y sylw nawr ar gyfarfod llawn yr Orsedd fore Iau rhywbeth sy'n digwydd yn flynyddol ar Faes yr Eisteddfod.

Fe fydd arwyddocad arbennig i'r cyfarfod wrth i'r sefydliad ddod o dan bwysau i weithredu yn erbyn o'u haelodau amlycaf.

Cafodd Huw Edwards ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Tregaron.

Heno mae'n ymddangos bod y cyfnod hwnnw yn dirwyn i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.