Newyddion S4C

Eluned Morgan yn cael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru

07/08/2024

Eluned Morgan yn cael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru

Bron i bythefnos ers dod yn arweinydd ar ei phlaid daeth yr amser i Eluned Morgan ddod yn arweinydd ar ei gwlad hefyd.

Ac Aelodau'r Senedd wedi'u galw nôl i'r achlysur Vaughan Gething, Prif Weinidog du cyntaf Cymru "I'm proud to nominate Eluned Morgan to be the First Minister of Wales." yn enwebu Eluned Morgan i fod y fenyw gyntaf i wneud y swydd.

Wedi pleidlais, cafodd hynny ei gadarnhau.

"Dyw hwn ddim yn ymwneud a thorri nenfydau gwydr yn unig.

"Mae'n ymwneud a'u chwalu gan ddefnyddio'r darnau i greu mosaig o bosibiliadau newydd.

"Dw i'n cario gyda fi doethineb cyfunol menywod di-ri sy wedi brwydro, ymdrechu a dyfalbarhau llawer heb y gydnabyddiaeth maen nhw'n eu haeddu."

"I also congratulate the First Minister designate."

Roedd 'na ddymuniadau da o bob ochr ond rhybudd gan y gwrthbleidiau bod heriau o'i blaen.

"NHS waiting lists, on the PISA results in education and the economic situation we find ourselves in with TATA and a sluggish Welsh economy then obviously those are big issues for you to address along with your cabinet."

"Nid trosglwyddiad trefnus o un Prif Weinidog i'r llall ydy hwn.

"Ers misoedd mae Llafur, fu'n llywodraethu ers cymaint o amser wedi canfod ei hun yn ddiymadferth wrth orfod delio â sgandal mewnol."

Dod a'r grŵp Llafur ynghyd fydd un o'r blaenoriaethau yn sgîl yr holl densiynau ddaeth i'r amlwg yn ystod cyfnod Vaughan Gething wrth y llyw.

Cyfnod a ddaeth i ben yn fuan ar ôl i'r gŵr yma a thri arall o aelodau'r Cabinet ymddiswyddo fis diwethaf.

"Oedd real synnwyr ac ymdeimlad yn y grŵp o fod yn un tîm.

"Dyna beth y'n ni yn y bôn."

Dŵr dan bont?

"Ie, wrth gwrs.

"O edrych i'r dyfodol, un tîm yn cefnogi Eluned a Huw fel dirprwy."

Heno mae gan Gymru Brif Weinidog newydd arall.

Eluned Morgan yw'r trydydd person eleni i wneud y swydd.

Dyma anrhydedd mwyaf ei bywyd medde hi.

Mae'r gwaith caled yn dechre'n syth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.