Dim archif o'r bennod gyntaf o 'Pobol y Cwm': Apêl i chwilio'r atig
Mae apêl wedi ei gwneud am unrhyw archif o ddyddiau cynnar "Pobol y Cwm", wedi iddi ddod i'r amlwg nad oes copi o'r bennod gyntaf o'r opera sebon enwog.
Cafodd y bennod gyntaf ei darlledu ar 16 Hydref 1974. Mae sgript y rhaglen yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond does dim fideo neu ffilm o'r bennod ar gof a chadw.
Mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher, gwnaeth un o benaethiaid yr Archif Ddarlledu apêl am unrhyw ddeunydd o ddyddiau cynnar y rhaglen.
Dywedodd yr Athro Jamie Medhurst, sydd hefyd yn ddarlithydd film a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth; "“Yn anffodus doedd hi ddim yn arferol i gadw copi archif o ddarllediadau yn nyddiau cynnar darlledu teledu, ac felly does dim copi o bennod cyntaf Pobol y Cwm ar gof a chadw, hyd y gwyddom.
"Dyma ni’n rhoi cais felly ar i unrhyw un all fod â chopi o’r penodau cyntaf yn yr atig neu wedi ei storio mewn cwpwrdd yn rhywle i gysylltu â ni yn y Llyfrgell Genedlaethol.
“Yn yr un modd, tybed oes ‘na greiriau neu ddeunydd hyrwyddo o ddyddiau cynnar y gyfres gan rhywun? Bydde’n braf eu gweld a’n cynorthwyo wrth i ni barhau i adeiladu ein cof cenedl yn yr archif ddarlledu.
Yn ystod y digwyddiad ar y Maes, bu'r Athro Medhurst yn holi rhai o wynebau cyfarwydd y gyfres dros y blynyddoedd, gan gynnwys Lis Miles, fu'n actio ym mehnnod gyntaf Pobol y Cwm 50 ml;ynedd yn ol.
Dylai unrhyw un sydd a deunydd am y rhaglen gysylltu a'r Llyfrgell Genedlaethol.