Newyddion S4C

'Camreolaeth epig': Angen dysgu gwersi o Ffos-y-frân

08/08/2024
ffos y fran.png

Ddylai ‘camreolaeth epig’ saga mwynglawdd Ffos-y-frân ddim digwydd eto i’r un gymuned yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd. 

Heddiw, mae adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn galw am i wersi gael eu dysgu o ran sut y mae safleoedd yn cael eu hadfer ar ôl i drwyddedau mwyngloddio ddod i ben. 

Daeth y drwydded i godi glo o  fwynglawdd Ffos-y-frân ym Merthyr Tudful i ben ym mis Medi 2022 ond adroddodd preswylwyr lleol fod y pwll yn dal i weithredu – yn anghyfreithlon – fisoedd lawer ar ôl hyn cyn i’r safle gau ym mis Tachwedd 2023. 

Pan agorodd am y tro cyntaf, addawodd y cwmni sy’n rheoli’r mwynglawdd, Merthyr (De Cymru) Cyf, adfer y safle yn llawn ar ôl iddo orffen ei weithrediadau.  

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod y cwmni wedi talu bron £50 miliwn mewn difidendau a breindaliadau o’r busnes ers 2017.  

Ond gydag amcangyfrif bod y costau adfer presennol rhwng £50 miliwn a £120 miliwn, ac er gwaethaf yr addewidion adfer gwreiddiol, mae’r cwmni bellach yn honni nad yw’n gallu fforddio hyn. 

Yn ôl y pwyllgor: "Mae’r gymuned leol bellach yn edrych ar graith barhaol ar draws cefn gwlad wrth iddi frwydro i sicrhau bod y tir yn cael ei adfer cymaint â phosibl."

'Gwarthus' 

Mae Alyson a Chris Austin, sy'n byw ger Ffos-y-frân wedi bod yn galw am atebion ers tro.

Dywedon nhw: “Mae’r broses gyfan wedi bod yn ofnadwy ac mae’r cyfathrebu gan y cyngor a’r cwmni mwyngloddio wedi bod yn warthus drwyddi draw. 

"Dim ond pan gaiff ei orfodi bydd yn dweud unrhyw beth wrthym; mae'n ymddangos bod y gymuned leol ar waelod ei restr o flaenoriaethau.  

“Mae gennym bryderon enfawr am ddyfodol Ffos-y-frân. Yn y pen draw, bydd gennym ddyffryn llac ag ochrau serth gyda llyn ar y gwaelod; y mae’n hawdd i unrhyw un ei gyrraedd, a fydd yn denu plant. 

“Rydym yn teimlo bod ein Hawdurdod Lleol, Llywodraeth Cymru, ac asiantaethau’r llywodraeth ar bob lefel wedi ein gadael yn agored i niwed. 

"Dylai’r cwmni mwyngloddio gadw at ei addewid o adfer y safle’n llawn ac ni ddylai'r cyngor adael iddo ddianc a’n gadael gyda thir peryglus a diffaith.  

Tryloywder 

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio mesurau gorfodi cryfach pan dorrwyd rheolaethau cynllunio, er enghraifft, pan barhaodd y gwaith mwyngloddio ar y safle ar ôl i’r drwydded ddod i ben.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn annog mwy o dryloywder ym mhob agwedd ar y broses fwyngloddio fel bod y cyhoedd yn ymwybodol o sut y mae cynlluniau’n datblygu.  

Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod yr holl adroddiadau cynllunio a chynlluniau adfer ar gael ar-lein ac ar gael i’r cyhoedd. 

Mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn edrych ar fater dadleuol adfer tomenni glo a phwy a ddylai dalu am sicrhau diogelwch dros 2,000 o domenni glo sy’n difetha llawer o gymunedau ar draws Cymru.  

Er bod Llywodraeth y DU wedi darparu rhywfaint o gyllid ychwanegol yn y blynyddoedd diwethaf i liniaru’r risg o bron 300 o domenni risg uchel, gan fod y mater wedi’i ddatganoli, mae’n dweud mai Llywodraeth Cymru ddylai ymdrin â’r mater. 

Mae adroddiad y Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i geisio cyllid ar gyfer adfer tomenni glo. 

Safleoedd eraill 

Mae adroddiad heddiw yn canolbwyntio ar fwynglawdd Ffos-y-frân, yn ogystal â mwyngloddiau glo brig eraill yng Nghymru a’r addewidion adfer toredig a wnaed i gymunedau. 

Cafodd mwynglawdd glo brig ym Mynydd Cynffig, Margam, ei gau dros bymtheng mlynedd yn ôl ond eto mae’r gwaith adfer “wedi syrthio'n resynus o fyr o'r hyn a addawyd”, yn ôl y Pwyllgor. 

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith,Mae'r adroddiad hwn yn nodi rhai o’r enghreifftiau mwyaf dybryd o'r addewidion toredig a wnaed i gymunedau ar draws Cymru. Bu camreolaeth aruthrol o’r mwyngloddiau hyn, gan bob parti, o’r dechrau i’r diwedd.  

“Mae cwmnïau mwyngloddio wedi cronni elw enfawr ond pan ddaw’n amser cyflawni eu haddewidion adfer, mae’r waled yn wag. Maent yn gwneud fel y mynnant a’r cymunedau lleol sy’n talu’r bil.  

“Dyna pam y mae mor bwysig ystyried perchnogaeth gymunedol mewn unrhyw ddatblygiad newydd, a allai arwain at reoli safleoedd mwyngloddio yn fwy cyfrifol. 

“Dywedodd preswylwyr wrthym eu bod yn teimlo eu bod wedi’u methu’n llwyr gan yr awdurdodau cyhoeddus sydd i fod i’w hamddiffyn. Yn rhy aml maent wedi ymddangos ar ochr y cwmnïau mwyngloddio.  

“Mae tryloywder wedi bod yn broblem wirioneddol gyda phreswylwyr yn brwydro i gael atebion gan eu cynghorau pan maent wedi gofyn cwestiynau dilys am fwyngloddio ger eu cartrefi.   

“Mae amser yn prysur ddod i ben i sicrhau’r hyn a addawyd i’r gymuned leol yn Ffos-y-frân. 

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac awdurdodau lleol eraill, i ddysgu’r gwersi o’r adroddiad hwn, fel na fydd y camgymeriadau hyn byth yn cael eu hailadrodd mewn gweithiau adfer mwyngloddiau glo brig neu domenni glo." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.