Newyddion S4C

Pryderu am ddyfodol addysg uwch wrth i fyfyrwyr astudio tu allan i Gymru

07/08/2024
Huw Williams

Mae pryder am ddyfodol y sector addysg uwch yng Nghymru wrth i nifer o fyfyrwyr penderfynu astudio tu allan i'r wlad.

Roedd 43% o fyfyrwyr o Gymru oedd wedi derbyn lle mewn prifysgol yn 2023 wedi penderfynu astudio tu allan i'r wlad, yn ôl gwefan UCAS.

Mae hwn ychydig yn llai na'r nifer wnaeth dderbyn lle i astudio bob blwyddyn rhwng 2019 a 2022.

Dros y pum mlynedd diwethaf  mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £2.2 biliwn ar Rwydwaith Seren.

Cafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i annog y myfyrwyr "mwyaf disglair" i fynychu prifysgolion fel Rhydychen a Chaergawnt.

Dwy sydd wedi penderfynu astudio tu allan i Gymru ydy Mali Rhys Evans a Beca Roberts.

Mae eu penderfyniadau dros symud tu allan i Gymru yn wahanol.

"Dwi'n meddwl efallai profi rhywle arall i fyw gyntaf a wedyn symud yn ôl," meddai Mali o Gaerdydd.

"Fi'n meddwl mae'n rili da i weld sut mae pobl yn Lloegr yn gweld sut mae pobl o Gymru fel."

Mae Mali yn astudio Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Caerwysg, ond yn benderfynol o ddychwelyd i Gymru.

"Mae gallu cael y profiad o fyw rhywle arall yn rili pwysig, gallu symud i ffwrdd cyn symud nôl adref.

"Hyd yn oed ar ôl un blwyddyn dwi'n gwybod faint fi'n caru Cymru, faint fi'n caru siarad Cymraeg ac yn edrych ymlaen at ddod nôl."

Nid oes cwrs Gwisgoedd ar gael yng Nghymru, felly penderfynodd Beca Roberts o Bontypridd astudio yn Ysgol Gerdd Guild Hall yn Llundain.

Image
Beca a Mali

Er ei bod hi eisiau dychwelyd i Gymru, does dim  sicrwydd  y bydd swyddi yma yn y diwydiant mae hi'n bwriadu gweithio ynddi.

"Llundain yw'r lle gyda mwyaf o bethau o ran gweithio mewn theatr," meddai.

"Dyna lle mae'r diwydiant ond bydden i'n lico dod nôl i Gymru achos dwi'n caru Cymru.

"Felly os oes na swyddi yng Nghymru bydden i yn bendant eisiau dod adref.

"Ond mae'r diwydiant yn llawer  mwy yn Llundain felly fyddai cael swydd nol adref llawer anoddach."

Llai yn dychwelyd i Gymru

O’r siaradwyr Cymraeg sy’n bwriadu parhau â’u haddysg ar ôl gadael yr ysgol neu’r coleg, 40% yn unig sy’n bwriadu aros yng Nghymru, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Ychwanegodd ystadegau'r comisiynydd mai 62% o holl fyfyrwyr Cymru sy'n aros yn eu gwlad eu hunain am addysg prifysgol ar hyn o bryd.

Mae'r ganran yn sylweddol uwch ymhlith myfyrwyr o'r Alban a Lloegr, sef 95%.

Dros y misoedd diwethaf mae nifer o brifysgolion ar draws Cymru wedi dweud eu bod yn wynebu toriadau oherwydd diffyg arian.

Mae risg y bydd nifer o staff yn colli eu swyddi yn ystod cyfnod "heriol" i'r sector addysg uwch.

Dywedodd Dr Huw Williams, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ei fod yn bryderu am ddyfodol addysg uwch.

"Mewn adeg lle mae 'na argyfwng yn y sector addysg uwch yng Nghymru, dyw e ddim yn helpu bod y myfyrwyr yn cael y rhyddid, fel petai, i fynd draw i ochrau eraill y  Clawdd Offa.

"Mewn adeg lle dylwn ni bod yn gwneud ein gorau i ddenu gymaint o fyfyrwyr o Gymru i'r sector - dim jyst o safbwynt y sector ei hun wrth gwrs - ond o ran dyfodol Cymru fel cenedl.

" 'Dyn ni ddim ishe y gorau pob tro yn mynd i ffwrdd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.