
Yr Arglwydd Elystan Morgan wedi marw'n 88 oed

Yr Arglwydd Elystan Morgan wedi marw'n 88 oed
Mae’r Arglwydd Elystan Morgan wedi marw yn 88 oed.
Bu’n ffigwr blaenllaw o fewn y byd gwleidyddol am ddegawdau.
Roedd yn ymgeisydd Plaid Cymru mewn pedair etholiad, ond dros y blaid Lafur gafodd ei ethol i'r Dŷ’r Cyffredin.
Roedd yn Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Aberteifi am bron i wyth mlynedd ar ôl cael ei ethol yn 1966.
Yn ddiweddarach, roedd yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi, lle'r oedd wedi bod yn aelod ers 1981.
Fe ymddeolodd o Dŷ’r Arglwyddi ar 12 Chwefror 2020.
Fe arweiniodd yr ymgyrch ddatganoli aflwyddiannus yn 1979 a bu’n weithgar tu ôl i’r llenni am well setliad yn 1997.
Roedd hefyd yn farnwr uchel ei barch.
Fe briododd Alwen Roberts yn 1959, ond bu farw yn 2006.
Mae’r Arglwydd Elystan Morgan yn gadael ei ferch, Eleri, a’i fab, Owain, a’u teuluoedd.

'Cyfraniad diflino'
Yn un o Geredigion, roedd ganddo gysylltiad cryf gyda Phrifysgol Aberystwyth ac yntau wedi astudio yno ac yn ddiweddarach yn Lywydd ar y brifysgol.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Gyda thristwch mawr y clywsom y newyddion am farwolaeth yr Arglwydd Elystan Morgan. Roedd yn gyn-Lywydd y Brifysgol, a bu ei gyfraniad diflino at fywyd cyhoeddus Cymru ac at y Brifysgol yn enfawr.
"Byddai ei wybodaeth eang a’i ddoethineb, ei gynhesrwydd a’i hiwmor chwareus yn gadael argraff ar y rhai fyddai’n ei gyfarfod, ac roedd ganddo ddiddordeb byw yng ngwaith y Brifysgol ac Adran y Gyfraith a Throseddeg, lle bu’n fyfyriwr ei hun, gan ddarparu cefnogaeth a chyngor yn ôl y galw, ond heb ymyrryd.
"Fel prifysgol rydym yn diolch iddo am bopeth a roddodd i ni, ac yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu ar yr adeg anodd hon".
Mae'r Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, hefyd wedi talu teyrnged iddo.
Dywedodd Mr Lake: "Trist iawn clywed bod Ceredigion wedi colli un o'i meibion mwyaf disglair. Roedd yr Arglwydd Elystan Morgan yn ffigwr prin yn y byd gwleidyddol - yn wleidydd craff a gonest. Fy nghydymdeimlad dwysaf â'i deulu a'i ffrindiau".
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, hefyd ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged i'r Arglwydd Elystan Morgan.
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae fy meddyliau heddiw gyda theulu'r Arglwydd Elystan-Morgan yn dilyn y newyddion trist am ei farwolaeth.
"Roedd yn ymgyrchydd brwd ac ymroddedig dros ddatganoli, ac fe wnaeth ei waith diflino osod y sylfeini ar gyfer y Senedd sydd gennym heddiw".