Newyddion S4C

Teithio o Dubai i'r Eisteddfod yn 'gyfle i fy merch glywed a siarad Cymraeg'

Teithio o Dubai i'r Eisteddfod yn 'gyfle i fy merch glywed a siarad Cymraeg'

"Bydd yr Eisteddfod yn gyfle i fy merch fach glywed a siarad Cymraeg."

Dyna eiriau Elinor Davies-Farn, sy'n wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yn Dubai, ac sy'n berchennog ar gwmni gwallt Olew.

A hithau â stondin ar Faes yr Eisteddfod eleni, fe deithiodd Elinor o Dubai i Gymru yn unswydd ar gyfer yr Eisteddfod gyda'i gŵr, a'i merch fach, Ela. 

Cafodd Ela ei geni ym mis Ebrill eleni, ac mae hi wedi bod ar Faes y Brifwyl ym Mhontypridd yr wythnos hon wrth iddi ymweld â Chymru am y tro cyntaf. 

Dywedodd Elinor wrth Newyddion S4C: "Ni’n byw yn Dubai a tro cyntaf i fi ddod â fy merch i o Dubai i Gymru a ma’ fe jyst yn lyfli achos wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen, ma’ hi obviously yn tyfu felly jyst iddi ddod nôl i Gymru i ddathlu’r diwylliant ac i hi siarad Cymraeg.

"Dim ond fi sy’n siarad Cymraeg gyda hi adre’. Obviously ma’ Cyw ‘da ni ar YouTube hefyd ond fydd hi jyst yn gwybod ble ma’ Mam yn dod o a lle ma’ hanner arall hi yn dod o so ma’n rili pwysig bob blwyddyn i ni ddod nôl i’r Eisteddfod am wythnos i hi neud hynny."

Image
Elinor
Elinor ac Ela ar Faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd.

Wrth iddi fynd yn hŷn, mae Elinor yn gobeithio y bydd Ela yn gallu defnyddio'r Eisteddfod i siarad Cymraeg.

"Ma’ fe mor bwysig i ddod ag Ela i’r Eisteddfod achos ma’ hi’n byw yn yr UAE ond dwi’n siarad Cymraeg gyda hi so ‘falle bod hi’n meddwl ‘Dim ond Mam sy’n siarad Cymraeg’ ond amser ma’ hi’n dod i’r Eisteddfod ma hi’n gallu siarad Cymraeg ei hunain, clywed Cymraeg a siarad Cymraeg yn rhydd," meddai Elinor. 

"‘Na beth fi’n rili hoffi achos ambell waith ti’n gallu dod nôl i Gymru a dim siarad Cymraeg ond fan hyn, ti’n gallu mynd i bob stondin, a siarad Cymraeg yn rhydd a jest dathlu ble ni’n dod o, fi’n dwli arno fe!"

'Gwell Cymro, Cymro oddi cartref'

Er ei bod hi wedi bod yn byw yn Dubai ers 2021, mae Elinor yn parhau yn falch iawn o'i hunaniaeth Gymreig. 

"Amser chi’n byw tramor, ma’ Cymru yn meddwl mwy i ti achos ma’ pobl yn gofyn ‘Where are you from?’ a ma’ rhaid ti weud ‘Cymru’ ag ambell waith ‘Na, dim Lloegr’ a wedyn gweud ‘Mae iaith fy hunan gyda fi’," meddai. 

"Ma’ pawb mor amazed a ma’ nhw mor prowd bod ni wedi cadw ein iaith i fynd ymlaen so bob tro ti’n gweud y stori ‘na, ma’ hiraeth yn dod a ti jest yn fwy a mwy prowd.

"So fi’n rili prowd bod cwmni fi dros y byd i gyd gyda enw Cymraeg, so ma’ pobl sydd byth wedi gwybod am biti Cymru yn gallu gweud gair Cymraeg a fi jest yn lyfo fe!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.