Newyddion S4C

Adroddiad yn galw am roi statws arbennig i gymunedau Cymraeg

08/08/2024

Adroddiad yn galw am roi statws arbennig i gymunedau Cymraeg

Mae adroddiad am ddyfodol cymunedau Cymraeg wedi awgrymu rhoi statws arbennig i ardaloedd o'r fath er mwyn diogelu'r iaith.

Mae'r adroddiad, gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn argymell creu polisiau penodol i gryfhau'r iaith mewn ardaloedd lle mae dros 40% o bobl yn siarad Cymraeg.

Mae'r ddogfen gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn gwneud 57 o argymhellion i gyd, mewn meysydd fel tai, mentrau cymunedol, a'r economi.

Mae'n awgrymu "dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’ i gydnabod cymunedau lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg.

Mae'r Comisiwn yn awgrymu y dylai'r Llywodraeth roi'r statws i ardaloedd lle mae dros 40% o bobl yn siarad Cymraeg, ond mae hefyd yn dweud y dylai cynghorau gael yr hawl i ddynodi cymunedau penodol o fewn eu siroedd eu hunain.

Yn yr ardaloedd yma, dylid "sicrhau mwy o ystyriaeth i'r Gymraeg mewn datblygiadau polisi, y gallu i amrywio polisi, ac i gefnogi defnydd o’r Gymraeg yn effeithiol ar lefel gymunedol," meddai'r Comisiwn, gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2022.

Mae hefyd yn galw am fynd i'r afael â'r argyfwng tai mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith, gan roi pwyslais ar ddatblygiadau tai ar gyfer anghenion lleol. Yn ogystal, mae'n argymell sefydlu cronfa benthyciadau llôg isel neu gynllun ecwiti er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol i brynu tir neu eiddo.

Mewn ymateb, mae mudiad Hawl i Fyw Adra wedi croesawu’r syniad o roi statws arbennig i ardaloedd Cymraeg.

"Mae'n hen bryd ac yn dyngedfennol bwysig i roi pwyslais polisi ar y Gymraeg mewn ardaloedd ymhle mae hi’n iaith bob dydd, yn iaith y stryd," meddai llefarydd.

"Heb wneud hynny fe wneir cam mawr a’n hiaith ac bydd ei dyfodol fel iaith fyw yn gwbwl ansicr."

'Perthyn'

Image
Dr Simon Brooks
Dr Simon Brooks

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks: "Mae’n fraint cyflwyno’r adroddiad i’r Llywodraeth, sy’n benllanw dwy flynedd o waith yn datblygu cynigion polisi o ran dyfodol cymunedau Cymraeg. 

"Er mwyn bod yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i ni i gyd, mae’n rhaid gofalu am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol hefyd. Mae argymhellion y Comisiwn yn anelu at wneud hynny. 

"Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni sicrhau dyfodol bywiog a llewyrchus i gymunedau Cymraeg ledled y wlad."

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Roedd sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymru yn gam hanfodol yn ein hymrwymiad ni i gryfhau’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd. 

"Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Comisiwn am ei waith a’i ymroddiad. Byddwn ni nawr yn ystyried y canfyddiadau a'r hargymhellion yn ofalus cyn ymateb i’r adroddiad.”

Hefyd heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ail gam y Comisiwn, sef edrych ar sefyllfa’r Gymraeg o fewn cymunedau eraill Cymru a thu hwnt.

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Y Gymraeg yw ein hiaith genedlaethol ac mae’n perthyn i ni i gyd. Rwyf wedi gofyn i’r Comisiwn edrych ar y defnydd o’r Gymraeg yn holl ardaloedd Cymru a thu hwnt."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.