Eurgain Haf yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Eurgain Haf sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd 14 o ymgeiswyr.
Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Newid’. Y beirniaid oedd Annes Glynn, John Roberts ac Elen Ifan.
Mae gwreiddiau Eurgain Haf ym Mhenisarwaun yn Eryri ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym Mhontypridd efo’i gŵr Ioan a’u dau o blant, Cian Harri a Lois Rhodd a chi bach annwyl o’r enw Cai Clustia’.
Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Tan-y-Coed, Penisarwaun ac yna Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug ble y daeth dan ddylanwad ei hathrawon Cymraeg, Esyllt Maelor a’r diweddar Alwyn Pleming a’i hanogodd i ysgrifennu.
Aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth ble y graddiodd yn y Gymraeg a’r Ddrama ac yna mynd ati i gwblhau gradd MPhil yn y ddrama ac mae’n ddiolchgar i’r Athro Elan Closs Stephens a’r diweddar Athro John Rowlands am eu holl anogaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae eisoes wedi ennill sawl gwobr lenyddol gan gynnwys Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, coron Eisteddfod Môn a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.
Hyd yma mae wedi cyhoeddi deuddeg o lyfrau ar gyfer plant yn cynnwys Y Boced Wag a Cyfrinach Noswyl Nadolig ac wedi cyfrannu straeon byrion ar gyfer cyfrolau i oedolion fel O, Mam Bach! Cariad Pur a Nerth Bôn Braich.
Mae hefyd yn gyn-enillydd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ac fe berfformiwyd drama fer o’i heiddo, Cadw Oed, fel rhan o gynhyrchiad teithiol Sgript Cymru, ‘Drws Arall i’r Coed’ yn 2005.
Mae ei gyrfa ym maes cyfathrebu a PR a threuliodd ddeng mlynedd hapus iawn yn gweithio yn Adran y Wasg S4C cyn cael ei phenodi yn Uwch Reolwr y Wasg a’r Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.
Beirniadaeth
Meddai Annes Glynn yn ei beirniadaeth, “Nid nofel drom, lafurus mo hon. Mae dawn yr awdur i newid cywair yn effeithiol, y cyfuniad o dosturi a hwyl, a’r fflachiadau cynnil o hiwmor - rhywbeth digon prin yn y gystadleuaeth - yn ei chadw rhag disgyn i’r pydew hwnnw.
"Mae’n llenor sy’n gwybod pryd i roi’r brêcs ymlaen ac yn ddigon hyderus yn ei allu ei hun ac yng nghrebwyll y darllenydd.
“Gall Manaia ysgrifennu’n fywiog; at ei gilydd creodd gymeriadau crwn, byw hefyd a gallwn ddyfynnu enghreifftiau lu o ‘ddweud da’ drwyddi draw.
“Yn sicr, gŵyr Manaia werth a grym geiriau. Am greu cyfuniad ohonynt yn gelfydd â chynildeb, sensitifrwydd a hiwmor ac am greu prif gymeriad a fydd yn aros yn y cof, Manaia sy’n derbyn y Fedal eleni.”
Dywed Elen Ifan, “Mae’r ysgrifennu yn gadarn: ceir disgrifiadau cywrain a barddonol ar adegau, cymeriadu cryf, plotio da, a deialog gredadwy drwyddi draw. Mae’r stori’n adeiladu i grescendo sy’n ymylu ar fod yn eithafol, ond i mi roedd y digwyddiad sy’n arwain at yr uchafbwynt hwnnw – un ymddangosiadol ddigon di-nod – yn llwyddiannus iawn. Roedd y darllenydd, o’i brofi drwy lygaid Heli, yn deall yr arwyddocâd, ac fe deimlwn ei cholled i’r byw.
“Mae’r nofel hon yn ei chyfanrwydd, a’i chymeriadau yn arbennig, yn cyfareddu, ac yn aros gyda’r darllenydd am gyfnod hir wedi’i darllen. Mae Manaia yn llawn haeddu’r wobr eleni.”
Nododd John Roberts yn ei feirniadaeth yntau, “Mae gan Manaia allu i ysgrifennu yn gynnil ond lliwgar a bywiog, ac mae’r cymeriadau yn grwn ac yn gyfan.
"Cynnil iawn yw’r darlun o rwystredigaeth y tad ac ansicrwydd y fam ond y mae’n ddigon i’r darllenydd eu hadnabod a chydgerdded gyda hwy... Dyma gymeriadau sydd yn aros gyda’r darllenydd a dyma ysgrifennu synhwyrus, dychmygus sydd yn defnyddio hiwmor, cynhesrwydd a thensiwn.
"Manaia sy’n dod i’r brig a’r ddwy nofel arall yn dynn ar ei sodlau.”
Cyflwynwyd y Fedal gan Clochdar, papur bro Cwm Cynon, er cof am Idwal Rees, pennaeth cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, a’r wobr ariannol o £750, gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.