Newyddion S4C

Cyngerdd i gofio am gerddor ifanc 'o flaen ei hamser' o fro'r Brifwyl

Morfydd Llwyn Owen a Gwenno Morgan

Bydd cyngerdd yn cael ei gynnal ym Mhontypridd nos Iau i gofio am gerddor a chyfansoddwraig o fro'r Brifwyl.

Bu farw Morfydd Llwyn Owen o Drefforest, Rhondda Cynon Taf, wythnosau'n unig cyn ei phen-blwydd yn 27 oed yn 1918.

Yn ystod ei bywyd byr, fe wnaeth Morfydd greu 250 o weithiau cerddorol, gan gynnwys darnau ar gyfer ensemble siambr, piano, côr cymysg a cherddi tôn i gerddorfa.

Dywedodd y cerddor Gwenno Morgan o Fangor, fydd yn curadu'r noson, ei bod hi'n "edrych ymlaen" i roi teyrnged iddi.

"Bwriad y cyngerdd yw annog pobl  i fynd i wrando ar ei cherddoriaeth hi," meddai Gwenno.

"O'n i 'di gwrando ar rai o'i gweithiau ond o'n i ddim yn dallt yn iawn pwy oedd Morfydd a'i stori hi.

"Felly dw i'n gobeithio y bydd o'n annog pobl i ddarllen, gwrando a gwerthfawrogi gweithiau un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig yn hanes Cymru."

Bydd yr artistiaid Talulah a Cerys Hafana yn ymuno â'r sopranos Llinos Haf Jones a Glesni Rhys Jones ar y Bandstand ym Mharc Ynys Angharad nos Iau.

Mae disgwyl i'r cyngerdd yng ngolau cannwyll ddechrau am 21.15.

'O flaen ei hamser'

Cafodd Morfydd Llwyn Owen ei geni yn Nhrefforest, Pontypridd yn 1891. 

Roedd ei rhieni’n gerddorion amatur ac roedd hi’n blentyn cerddorol a ddangosodd ddawn amlwg yn ifanc. 

Yn 16 oed, fe astudiodd piano a chyfansoddi gyda Dr David Evans yng Nghaerdydd a chyhoeddwyd ei gwaith cyntaf, emyn-dôn o’r enw ‘Morfydd’, yn 1909.

Wedi dwy flynedd o astudio gyda Dr Evans, fe enillodd ysgoloriaeth i astudio cyfansoddi yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Cafodd llawer o’i gweithiau eu perfformio mewn datganiadau myfyrwyr, a graddiodd ym 1912. 

Yr un flwyddyn, fe gafodd Morfydd ei derbyn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Roedd ei rhieni yn gyndyn iddi barhau â’i hastudiaethau yn Llundain, ond cafodd lwyddiant yn yr Academi Frenhinol.

Ar ôl iddi ddatblygu ei llais fel mezzo-soprano, fe enillodd y wobr gyntaf am ganu mewn eisteddfod ranbarthol yn Abertawe ym 1913, a pherfformiodd gylch o ganeuon yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Ond daeth trobwynt yn ei bywyd ar ôl iddi briodi'r seicdreiddiwr  (psychoanalyst) Ernest Jones yn 1917 yn Llundain. 

Roedd Ernest Jones yn disgwyl i’w wraig gefnogi ei fywyd proffesiynol a chymdeithasol ar draul ei gyrfa fel cerddor, gan greu tensiynau amlwg.

Yna, yn ystod haf 1918, tra roedd ar wyliau yn Ystumllwynarth ger Abertawe, bu farw Morfydd ar ôl cael ei tharo'n wael ag appendicitis. 

Image
Cerddorion sy'n perfformio yng nghyngerdd Morfydd Llwyn Owen
Y cerddorion, o'r chwith i'r dde: Llinos Haf Jones, Talulah, Glesni Rhys Jones a Cerys Hafana

Wedi ei marwolaeth drasig. cafodd ei gweithiau cerddorol eu beirniadu gan rai.

Dywedodd Gwenno: "Fel nifer o gyfansoddwyr benywaidd yn ein hanes ni, cafodd ei gwaith hi ei esgeuluso am gyfnodau.

"Ond yn fwy diweddar, mae na fwy o unigolion a sefydliadau wedi gweithio'n galed i wneud yn siŵr nad ydy ei hetifeddiaeth wedi cael ei anghofio.

"Mae pobl fel yr hanesydd cerdd Dr Rhian Davies wedi gwneud gymaint i ddod â hanes Morfydd Llwyn Owen i sylw ehangach a hefyd sefydliadau fel Tŷ Cerdd."

Ychwanegodd Gwenno fod angen gwneud mwy o ymdrech i hybu cerddoriaeth gan gyfansoddwyr benywaidd yng Nghymru.

"Yn gyffredinol mewn cerddoriaeth, ac nid just yng Nghymru, mae gen ti bobl sy'n gwneud mwy, ond mae dal angen gwneud mwy o ymdrech i hybu cerddoriaeth cyfansoddwyr benywaidd yng Nghymru boed hynny yn y byd pop, neu yn y byd gigs," meddai.

"Roedd Morfydd o flaen ei hamser. Mae'n eiconig na'i gŵr hi nath stopio hi rhag cyfansoddi."

Ymchwil gan Eryl Crump

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.