Menyw wedi marw wedi gwrthdrawiad yng Nghasnewydd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth menyw mewn gwrthdrawiad ger Magwyr yng Nghasnewydd yn oriau mân fore dydd Mercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad un car, Skoda Kamiq du, toc ar ôl 12:05 fore ar yr B4245, rhwng Magwyr a Langstone.
Bu farw teithiwr yn y car, menyw 24 oed o Gasnewydd, yn y fan a’r lle.
Mae ei theulu cael gwybod a mae nhw'n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd Heddlu Gwent bod gyrrwr y car, dyn 34 oed o Gasnewydd, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus. Mae'n parhau yn y ddalfa.
Cafodd dynes arall oedd yn teithio yn y car ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau. Ond dyw ei bywyd hi ddim mewn perygl.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 2400263107.