Mark Drakeford yn ôl fel Ysgrifennydd Iechyd yng nghabinet Eluned Morgan
Mae'r cyn Brif Weinidog Mark Drakeford wedi dychwelyd fel Ysgrifennydd Iechyd yng nghabinet y Prif Weinidog newydd Eluned Morgan.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod hi wedi gofyn iddo ddychwelyd "dros dro" nes ei bod hi'n penderfynu ar ei chabinet terfynol ym mis Medi.
"Rwyf wedi gofyn i Mark Drakeford, yr Aelod dros Orllewin Caerdydd, ymuno â’r tîm Gweinidogol fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a hynny dros dro," meddai Eluned Morgan.
"Bydd Mark yn defnyddio’i wybodaeth a'i brofiad sylweddol i barhau â'n gwaith o wella tryloywder a darpariaeth gwasanaethau. Byddaf innau’n parhau’n gyfrifol am y Gymraeg."
Ond mae arweinydd Plaid Cymru wedi beirniadu'r penodiad.
“Mewn cyfnod o argyfwng yn y gwasanaeth iechyd, y peth olaf sydd ei angen yw Gweinidog Iechyd dros dro fydd ond yn ychwanegu at yr ansicrwydd sy’n wynebu ein gwasanaeth iechyd," meddai Rhun ap Iorwerth.
“Yn ystod cyfnod blaenorol Mark Drakeford yn y swydd, bu cynnydd o 11% yn y nifer oedd yn aros am driniaeth a chafodd Bwrdd Iechyd mwyaf Cymru ei roi mewn mesurau arbennig.
“Mae Cymru’n haeddu gwell na llywodraeth o ddiffyg cynnydd ac arddeliad."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: “Yr hyn mae Cymru angen yw llywodraeth all fod yn lais i Gymru gyfan, ac sy'n gallu cynnig y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus mae Cymru'n haeddu.
• Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Huw Irranca-Davies AS
• Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: Rebecca Evans AS
• Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lynne Neagle AS
• Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Jayne Bryant AS
• Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mark Drakeford AS
• Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ken Skates AS
• Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Jane Hutt AS
• Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Dawn Bowden AS
• Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Jack Sargeant AS
• Y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar: Sarah Murphy AS
• Y Darpar Gwnsler Cyffredinol: Elisabeth Jones