‘Llanast’: Esteddfod gyntaf yn mynd yn ei blaen ar ôl i rywun dorri i mewn i stondin
Bydd yr ‘Esteddfod’ gyntaf yn mynd yn ei blaen er i rywun dorri i mewn i stondin a chreu “llanast” yno, meddai’r trefnydd.
Bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal y gystadleuaeth esports cyntaf ar faes y Brifwyl brynhawn a nos Fercher.
Ond roedd cur pen i’r trefnwyr wrth iddyn nhw gyrraedd fore Mercher a darganfod fod rhywun wedi troi eu tipi ben i waered.
Dywedodd Rhys Ruggiero, hwylusydd y Gymraeg gyda Choleg y Cymoedd wrth Newyddion S4C eu bod nhw wedi pryderu i ddechrau bod pethau wedi eu dwyn.
Ond daeth popeth i’r golwg, gyda rhai pethau wedi eu cuddio, meddai.
“Wnaethon ni gyrraedd bore 'ma ac yn amlwg roedd yna bobl wedi bod mewn yn y tipi dros nos,” meddai.
“Roedd gyda ni gynnyrch hylendid a ballu ond jesd wedi ei daflu o amgylch y Tipi.
“Roedden nhw wedi bod yma ac wedi bod yn mwynhau gyda rhywfaint o’r gemau sydd gyda ni i bobol fwynhau yn y dydd.
“Bach yn siomedig - roedd 'na dipyn o lanast.
“Ond ar ôl clirio a gwneud check o bob peth gweld nad oedd yna ddim byd actually wedi cael ei ddwyn.
“Gobeithio mai dyna ni rŵan mae 'na ddigon o ddiogelwch, da ni wedi bod yn gweithio efo’r tîm yma o’r Steddfod. Popeth wedi bod yn iawn wedyn felly croesi bysedd bydd pawb yn barchus ac yn dod i fwynhau'r stwff ac mai dyna ni.”
‘Prosesau’
Dywedodd fod popeth bellach yn ei le ar gyfer yr Esteddfod brynhawn Mercher.
“Mae gyda ni rowndiau terfynol ar un ochor y tent ac mae’r ffeinal yn digwydd heno tua 21.00,” meddai.
“Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn rhan ohoni gyd a bydd ‘na ambell i syrpreis. Dw i wedi clywed bod Joe Ledley am wneud ymddangosiad.
“Dewch yn llu i fwynhau ac mae gyda ni lwyth o gemau i bobol ei wneud yn y tent. Da ni yma i’ch croesawu chi i gyd yma.”
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fod yr Eisteddfod yn ymwybodol o’r digwyddiad.
“Mae’n cael ei brosesu ac mae ‘na rif achos wedi cael ei nodi ac mae’r heddlu yn ymwneud ag e,” meddai.
Mae Newyddion S4c wedi cysylltu â Heddlu De Cymru am ymateb.