Rhan o Wynedd yn ardal Eisteddfod Genedlaethol 2027

Rhan o Wynedd yn ardal Eisteddfod Genedlaethol 2027

Fe fydd rhan o Wynedd yn cael ei chynnwys yn nalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth yr Eisteddfod gyhoeddi ym mis Rhagfyr mai Powys fydd cartref y Brifwyl yn ystod haf 2027, y tro cyntaf iddi ymweld â'r sir ers 2015.

Fe benderfynwyd mewn cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth mai yn Glantwymyn, ryw chwe milltir o Fachynlleth, fydd y Maes.

Cyhoeddwyd y bydd dalgylch yr Eisteddfod hefyd yn cynnwys ardaloedd Dolgellau, Bala, Tywyn, Aberdyfi a'r Bermo.

"Mae Eisteddfod y Garreg Las [yn Sir Benfro, ond ger Aberteifi yng Ngheredigion] yn profi bod cydweithio ar draws ffiniau yn beth cadarnhaol iawn," meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses wrth raglen Newyddion S4C.

"Mae yna gyfle felly i bobl fod yn rhan o'r gwaith paratoi gyda ni."

2027 fydd y tro cyntaf i Wynedd fod yn rhan o ddalgylch Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael ei chynnal mewn sir arall.

Y tro diwethaf i’r Eisteddfod ymweld â de Gwynedd oedd Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau yn 2009.

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi croesawu'r penderfyniad.

“Rydan ni’n dymuno’n dda i’n cymdogion dros Bont ar Ddyfi gyda’r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod," meddai.

"Mae Awst 2027 yn teimlo yn bell, ond gwyddwn o brofiad gydag Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 y bydd yr amser yn gwibio ac edrychwn ymlaen at y bwrlwm o weithgareddau a pharatoadau dros y misoedd nesaf.

“Rydw i’n gwybod y bydd cefnogaeth arbennig ymysg cymunedau de Meirionnydd i gael yr ŵyl unigryw hon ar garreg y drws, ac y bydd pobl leol yn edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt i’r fro."

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol 2027 yn cael ei chynnal rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.