'Snow city oeddan nhw’n arfer galw fo': Brwydro gyda dibyniaeth ar gyffuriau yn Rhuthun
Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn trafod defnydd o gyffuriau, hunan-niweidio a phroblemau iechyd meddwl.
Mae dyn o Ruthun yn dweud bod ei ddibyniaeth ar gocên wedi arwain at ddyled, unigrwydd, argyfyngau iechyd meddwl ac ymgais i gymryd ei fywyd ei hun.
Mae Rhun Dafydd yn trafod ei brofiad yn agored am y tro cyntaf fel rhan o gyfres newydd ar S4C, Cymru ar Gyffuriau, sy’n ymchwilio i’r defnydd o gocên yng nghymunedau gwledig Cymru.
“Yn slo bach, darn wrth ddarn, nath o gymryd popeth i ffwrdd ohona fi," meddai.
"Yn gyntaf hunan-barch, wedyn ffrindiau, teulu."
Fe dreuliodd Rhun bum mlynedd mewn cylch dieflig yn cymryd y cyffur a thyfu’n ddibynnol arno wrth geisio delio gyda heriau iechyd meddwl.
"Odd petha’n mynd mor dywyll, yr unig goleuni o’n i’n gallu gweld yn diwedd odd trwy defnyddio cyffuriau," meddai.
Yn ôl Rhun roedd cocên “o gwmpas yn bob man yn Rhuthun… Do’ chi ddim angen edrych yn bell o gwbl i ffeindio fo.”
“Snow city oeddan nhw’n arfer galw fo ar un adeg. O’dd cymaint o côc o gwmpas yma am dref bach.
"O’dd cocen mor accessible yma o’dd pobol yn dod o Wrecsam, a Caer i Rhuthun. "
Mae’n cofio mynd i dŷ deliwr yn y dref ble oedd llond lle o’r cyffur. Roedd yn aml yn ei brynu gydag arian yr oedd wedi ei ddwyn o’i deulu neu’r siop lle’r oedd yn gweithio.
“O’n i’n talu be o’n i ar, ond erbyn mis nesa, o’n i’n hôl mwy a doedd y ddyled byth yn mynd," meddai.
'O’n i wir yn casáu fy hun'
Dywedodd Rhun fod problemau iechyd meddwl yn rhan o’i fywyd ers ei blentyndod, a throdd at alcohol a chyffuriau i geisio dianc.
“Pan o’n i tua 14 nes i ddechrau yfed yn drwm… oedd o’n ffordd o ddelio hefo fy iechyd meddwl," meddai.
"Wedyn nes i gael fy introducio i cocên.
“O’n i’n self-harmio… yn torri fy hun ar y mrechiau ac ar y chest achos o’n i’n casáu fy hun.
"O’n i angen cymryd mwy o gocên i symud ymlaen o’r boen…”
Aeth pethau o ddrwg i waeth wrth iddo ddwyn i dalu am y cyffuriau, ac yn y pen draw fe gymerodd llwyth o dabledi a diweddu yn yr ysbyty.
“Dwi’n cofio deffro yn yr ysbyty a mam yn dal fy llaw… nes i ddechrau crio yn deud: ‘Dwi ddim isio byw fel yma ddim mwy'," meddai.
Mae’n dweud iddo ofyn i’r gwasanaeth iechyd am gymorth gyda’i iechyd meddwl ers ei fod yn 12 oed ond mai dim ond ar ôl yr argyfwng hwn y dechreuodd gwasanaethau gymryd sylw.
'Dim digon o wasanaethau'
Ar ôl wyth mlynedd yn glir o’i ddibyniaeth, mae Rhun yn galw nawr am well ddarpariaeth i bobol ifanc sy’n wynebu problemau tebyg.
“Mae angen i’r llywodraeth wneud mwy i helpu pobl - yn enwedig pobl ifanc," meddai.
"Mae gwasanaethau’n dibynnu ar wirfoddolwyr, sy’n gwneud gwaith anhygoel, ond does dim digon o bres yn mynd mewn i gefnogi nhw."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: “Ry’n ni’n buddsoddi dros £67m y flwyddyn i leihau marwolaethau a gwella gwasanaethau i gefnogi pobol sy’n cael eu heffeithio gan ddefnydd alcohol a chyffuriau.
"Mae hyn yn cynnwys £2m tuag at anghenion cymhleth, fel pan mae unigolyn angen gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl a defnydd o gyffuriau ar yr un pryd.”
I glywed mwy am y stori ewch i Youtube HanshS4C.
