Llanberis: Teclyn tracio wedi arwain at ddal dyn wnaeth ddwyn offer o set ffilmio
Fe wnaeth teclyn tracio arwain at ddal dyn o Lanberis wnaeth ddwyn offer o safle ffilmio rhaglen deledu BBC, clywodd llys ddydd Mawrth.
Clywodd Llys yr Ynadon Caernarfon bod David Pugh, 25 oed, wedi dwyn dwy ferfa a chymysgwr sment o set ffilmio DIY SOS fis Rhagfyr 2025.
Fe gafodd ei gyhuddo o ladrata ar 8 Rhagfyr.
Roedd yr offer werth £1,600, ac roedd 'air tag', sef teclyn tracio wedi ei osod yn y cymysgwr sment.
Dywedodd cyfreithiwr David Pugh ei fod wedi bod allan yn yfed mewn tafarn leol ar y noson y cafodd y cyfarpar ei ddwyn.
Ychwanegodd fod Pugh wedi colli ei swydd ac yn cael trafferthion hawlio budd-daliadau ar y pryd.
Dywedodd ei fod wedyn wedi gwneud "penderfyniad anffodus," un mae'n ei "ddifaru'n fawr."
Gwthiodd y dyn 25 oed y cyfarpar i'w gartref yn Llainwen Isaf a'i guddio yn ei garej.
Ond fe gafodd yr offer ei ganfod a'i ddychwelyd o fewn 24 awr.
Wrth siarad yn y llys dywedodd cyfreithiwr Pugh nad oedd ei gleient "ar unrhyw adeg yn ymwybodol bod gan yr offer unrhyw beth i’w wneud â DIY SOS".
Ychwanegodd: "Iddo ef, dim ond cymysgydd sment a berfâu oedd o.
“Wrth edrych yn ôl, ac yn ymwybodol o’r amgylchiadau llawn, mae’n teimlo’n hynod o gywilyddus. Mae’n ymddiheuro’n ddiamod i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan ei weithredoedd.”
Derbyniodd Pugh orchymyn cymunedol am hyd at 18 mis ac fe fydd angen iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl a gwisgo tag alcohol am 60 diwrnod.
Fe fydd hefyd angen iddo dalu costau o £199.
