'Bwlch sylweddol' rhwng Plaid Cymru a Reform mewn arolwg barn newydd
Mae arolwg barn newydd yn agwrymu bod mantais Plaid Cymru dros blaid Reform UK wedi cynyddu o ran bwriad pleidleisio etholwyr yn etholiadau'r Senedd.
Roedd Plaid Cymru a Reform yn agos iawn yn yr arolwg diweddaraf gan YouGov i etholiadau’r Senedd, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.
Bryd hynny, roedd Plaid Cymru ar 33%, a Reform UK yn ail gyda 30%.
Mae’r arolwg diweddaraf gan YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn awgrymu bod Plaid Cymru 14 pwynt ar y blaen, o 37% i 23% Reform.
Am y tro cyntaf erioed, mae'r Blaid Werdd yn drydydd yn yr arolygon barn ar 13%, gyda Llafur yn bedwerydd - ei safle isaf erioed mewn arolwg barn ar gyfer etholiadau'r Senedd - ar 10% ochr yn ochr â'r Ceidwadwyr.
- Plaid Cymru: 37% (+7)
- Reform UK: 23% (-6)
- Y Blaid Werdd: 13% (+7)
- Y Blaid Lafur: 10% (-4)
- Y Blaid Geidwadol: 10% (-1)
- Y Democratiaid Rhyddfrydol: 5% (-1)
- Eraill: 2% (-2)
Mae dadanosddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn awgrymu y byddai pleidlais o'r fath yn golygu bod y pleidiau â'r nifer canlynol o seddi yn y Senedd:
- Plaid Cymru: 45
- Reform UK: 23
- Y Blaid Werdd: 11
- Y Blaid Lafur: 8
- Y Blaid Geidwadol: 6
- Y Democratiaid Rhyddfrydol: 3
Dywedodd Dr Jac Larner, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, bod yr arolwg yn dangos “cyferbyniad llwyr ag arolygon barn blaenorol”.
“Mae bwlch sylweddol o 14 pwynt rhwng Plaid Cymru a Reform UK o ran bwriad pleidleisio etholiad y Senedd - symudiad sylweddol o'r adeg pan oedd y ddwy blaid yn ymddangos yn gyfartal," meddai.
"Dylai unrhyw arolwg unigol ddod gyda rhybudd ei fod yn eithriad i’r patrwm cyffredinol.
“Ond mae'n parhau â thueddiadau ehangach yr ydym yn eu gweld mewn arolygon yng Nghymru, lle mae Plaid Cymru wedi gweld rywfaint o gynnydd, a thueddiadau yn Lloegr, lle mae cefnogaeth i Reform i bob golwg yn sefydlogi tra bod y Gwyrddion wedi codi'n sydyn.
"Mae dau batrwm yn arbennig o nodedig. Yn gyntaf, mae'n ymddangos bod yr enillion i'r Gwyrddion a Phlaid Cymru yn dod oddi wrth bleidleiswyr nad oeddent wedi penderfynu o'r blaen, yn hytrach na’n dod o bleidiau eraill.”
Cyfanswm maint sampl YouGov ar gyfer Model MPR Bwriadau Pleidleisio'r Senedd oedd 1,220 o oedolion (16+). Cynhaliwyd y gwaith rhwng y 5ed a’r 12fed o Ionawr, 2026.
'Brwdfrydedd'
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod yr arolwg barn yn "anhygoel".
“Mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli eu bod yn wynebu dewis rhwng dau ddyfodol gwahanol iawn, ac yn dewis cefnogi gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru ar gyfer Cymru," meddai.
“Mae hynny oherwydd mai ni yw'r unig blaid a fydd bob amser yn sefyll dros Gymru, gydag arweinyddiaeth newydd a chynlluniau o ddifrif i drwsio ein gwasanaeth iechyd a helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw."
Dywedodd arweinydd Plaid Werdd Cymru, Anthony Slaughter, ei fod yn arolwg barn "hanesyddol".
“Mae’r arolwg hwn yn adlewyrchu’r brwdfrydedd rydyn ni’n ei weld ar garreg y drws," meddai.
Dywedodd ei fod yn dangos y gallai'r Blaid Werdd benderfynu ar ffurf y llywodraeth nesaf.

