Maes Awyr Caerdydd yn un o'r meysydd awyr lleiaf hygyrch yn y DU
Mae Maes Awyr Caerdydd ymhlith y meysydd awyr lleiaf hygyrch yn y DU, yn ôl adroddiad newydd.
Mae adroddiad blynyddol yr Awdurdod Awyrennu Sifil (CAA) wedi graddio holl feysydd awyr y wlad sydd yn derbyn dros 150,000 o deithwyr blynyddol, ar sail eu triniaeth o deithwyr ag anableddau a symudedd cyfyngedig.
Yn ôl yr adroddiad, nid oes unrhyw feysydd wedi derbyn y radd isaf, sef ‘gwael’.
Ond wedi eu graddio fel meysydd sydd ‘angen gwella’ mae Maes Awyr Caerdydd, yn ogystal â meysydd awyr Bryste, Gatwick, Lerpwl a Norwich.
Roedd 11 o feysydd wedi derbyn gradd ‘da iawn’, tra bod 12 wedi eu graddio fel rhai ‘da’ o’r rhan hygyrchedd.
Llywodraeth Cymru yw perchennog Maes Awyr Caerdydd, sydd yn cael ei redeg fel busnes masnachol.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodaeth Cymru am ymateb.
Mae’r CAA wedi annog meysydd awyr i gynyddu lefelau staffio a buddsoddi mewn rhagor o offer yn ystod y gaeaf, pan fydd y galw am hediadau yn gostwng.
Dywedodd Anna Bowles, pennaeth polisi defnyddwyr a gorfodi yn yr awdurdod: “Mae gwneud hedfan yn hygyrch i bawb yn rhan bwysig o’n gwaith i ddiogelu’r cyhoedd a hybu’r sector awyrofod.
“Mae’r sefyllfa wedi gwella ac mae peidio â graddio unrhyw feysydd awyr yn ‘wael’ eleni i’w groesawu. Ond mae mwy o waith i’w wneud, yn enwedig gan y meysydd awyr hynny rydyn ni wedi nodi sydd ‘angen gwella’ yn ein hadroddiad.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal a’u gwella.”