Newyddion S4C

Dymchwel siop oedd yn rhan o gyfres Sex Education

07/08/2024
Siop Sex Education, Llandogo

Bydd siop bentref yn ne Cymru, oedd yn rhan o gyfres Netflix boblogaidd yn cael ei dymchwel.

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Fynwy wedi pleidleisio o blaid dymchwel siop Browns General Stores yn Llandogo, yn Nyffryn Gwy yn Sir Fynwy, er mwyn codi tai a siop newydd ar y safle.

Yn y gyfres Netflix, roedd y cymeriadau Adam Groff, oedd yn cael ei bortreadu gan yr actor Connor Swindells, ac Ola Nyman, oedd yn cael ei chwarae gan Patricia Allison, yn gweithio yn y siop.

Roedd y siop wedi bod ar gau ers mis Tachwedd 2021 ar ôl bod yn nwylo'r un teulu ers dros 90 mlynedd.

Yng nghyfarfod y pwyllgor, dywedodd y cynghorydd lleol dros ward Llanarfan, Ann Webb bod trigolion yn "methu’r siop".

“Yn aml yn y pentref, dwi’n clywed ‘dw i’n methu Browns Stores.’ Mae’n gyfleuster sydd wir ei hangen.”

Llun: IMDB/Netflix

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.