'Torri calon': Gwrthod ceisiadau fisas i ddod â phlant Palesteinaidd i Ben Llŷn
Mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod ceisiadau fisas i ddod â phlant Palesteinaidd i Ben Llŷn.
Roedd grŵp o bobl o Bwllheli wedi gwahodd 11 o blant a thair menyw o’r Lan Orllewinol i Nant Gwrtheyrn am 10 niwrnod ym mis Medi.
Ond ar ôl chwe wythnos o aros, fe wnaeth y Swyddfa Gartref wrthod y ceisiadau fisas gan nad oedden nhw’n fodlon gydag amgylchiadau personol y plant.
Mewn llythyr at bob ymgeisydd, dywedodd y Swyddfa Gartref: “Nid yw'r dogfennau yr ydych wedi eu darparu yn dangos sut yr ydych chi’n cael eich cefnogi'n ariannol yn eich mamwlad. Nid wyf yn fodlon eich bod wedi dangos eich amgylchiadau personol sy'n bwrw amheuaeth am eich bwriadau.
“Nid wyf yn fodlon felly eich bod yn ceisio mynediad fel ymwelydd o ddifrif, eich bod yn bwriadu gadael ar ddiwedd eich ymweliad.”
Dywedodd Richard Parry Hughes, ffermwr o Lwyndyrys oedd wedi trefnu'r fenter, bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud “penderfyniad gwleidyddol”.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain bod gan ymgeiswyr gyfrifoldeb i ddangos eu bod nhw'n bodloni rheolau mewnfudo.
‘Torri calon’
Cafodd Mr Parry Hughes y syniad am y fenter wedi iddo gysylltu ag Undeb Amaethwyr Palesteinaidd yn sgil pryderon am y sefyllfa yno.
Yn dilyn sgwrs gyda Rula Khateeb, swyddog y wasg ar ran yr undeb, fe wnaeth Mr Parry Hughes wahodd rhai o blant o deuluoedd amaethyddol y Lan Orllewinol i Gymru.
Roedd y grŵp eisoes wedi codi dros £2,000 i ddod â’r plant i Gymru, ac wedi trefnu lle iddyn nhw i aros yn Nant Gwrtheyrn.
Yn dilyn y newyddion na fydd y plant yn cael fisas, dywedodd ei fod yn teimlo’n “hollol wag”.
“Dw i’n teimlo’n hollol wag, eithriadol o siomedig,” meddai.
“Adeiladu pontydd a heddwch dw i’n trio neud rhwng plant. Mae’n torri calon rhywun.”
Ychwanegodd: “O’n i’n trio gwneud rhywbeth positif yng nghanol sefyllfa negyddol iawn lle mae miloedd ar filoedd o blant wedi cael eu lladd yn Gaza, i ddangos i’r plant nad ydy pawb yn elyn iddyn nhw.”
'Penderfyniad gwleidyddol'
Er bod Llywodraeth Prydain wedi dweud nad oedd y plant wedi darparu dogfennau yn dangos sut maen nhw'n cael eu cefnogi'n ariannol ar y Lan Orllewinol, mae Mr Parry Hughes yn honni eu bod wedi gwneud “penderfyniad gwleidyddol”.
“Dydy nhw ddim ‘di gofyn i’w mamau a’u tadau nhw beth yw eu incwm nhw,” meddai.
“Mae gyno nhw famau a thadau gydag incwm. 'Sa nhw 'di gallu gofyn am payslips fel tystiolaeth, fysa hynny wedi ateb eu cwestiwn nhw.
“Penderfyniad gwleidyddol ydi o. Os fysa nhw’n dweud bod nhw’n bryderus ynghylch y rhyfel, dw i’n dalld hynny. Ond i ddweud hynna? Mae’n warthus.”
Er gwaethaf y siom, nid yw am roi'r gorau i'r fenter – ac mae'n gobeithio y bydd modd gwneud ail gais am fisas i'r plant dros y misoedd nesaf.
Ond y tro hwn, mae'r grŵp am geisio trefnu'r ymweliad drwy gynllun Taith sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain: “Mae’n rhaid i ni ystyried ceisiadau yn ôl eu teilyngdod unigol yn unol â’r rheolau mewnfudo, gyda’r cyfrifoldeb ar ymgeiswyr i ddangos eu bod yn bodloni’r rheolau hyn.”