Cyhoeddi enillydd Dysgwr y Flwyddyn: Golwg ar yr ymgeiswyr
Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher.
Eleni, cafwyd 45 cais yn y gystadleuaeth – y nifer uchaf erioed.
Bydd y pedwar yn y rownd derfynol yn dod ynghyd ar Faes yr Eisteddfod, i sgwrsio gyda’r beirniaid, Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan.
Cyhoeddir yr enillydd ar lwyfan y Pafiliwn am 14.10 a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf a £300.
Fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol enwau’r unigolion a gyrhaeddodd y rhestr fer ym mis Mehefin, gyda Joshua Morgan, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth hefyd yn cyrraedd y brig.
Dyma olwg ar y pedwar ymgeisydd eleni:
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1819284550763024459
Alanna Pennar-Macfarlane
Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi cyfle iddi weld ochr gwahanol i'w gŵr, meddai Alanna Pennar-Macfarlane.
Yn wreiddiol o'r Alban ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, fe ddechreuodd Alanna ddysgu Cymraeg chwe blynedd yn ôl ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei gŵr.
"Mae fy ngŵr a’i deulu i gyd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf ac o’n i’n gwybod pa mor bwysig oedd hi iddyn nhw siarad Cymraeg gyda’i gilydd, oedd e’n teimlo yn annaturiol iddyn nhw siarad Saesneg," meddai wrth Newyddion S4C.
"Felly oedd hi’n bwysig i fi nid dim ond deall be o’n i’n dweud ond gallu ymuno a neud e’n fwy naturiol a chyfforddus iddyn nhw. “
Ychwanegodd: "Mae ‘di bod yn, nid yn weird, ond yn wahanol i newid iaith ein perthynas ni, rhwng fi a fy ngŵr, achos naethon ni gwrdd yn Saesneg, naethon ni adeiladu perthynas mewn Saesneg ond nawr ni ‘di newid mewn i’r iaith Gymraeg.
"Mae’n rili ddiddorol gweld sut mae fe’n Gymraeg, ma’ fe mor gyfforddus yn y Gymraeg ac yn fwy hapus sy’n rili neis i weld a faswn i ddim wedi gweld yr ochr yna ohono fe heb siarad Cymraeg."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1818903740922876073
Antwn Owen-Hicks
“Dyfalbarhau yw beth sydd fwya’ pwysig.”
Dyma neges syml Antwn Owen-Hicks o Dredegar yn dilyn degawdau o ddysgu’r Gymraeg, ag yntau’n un o’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Yn wreiddiol o Bontllanfraith yng Nghwm Sirhowy, mae Antwn Owen-Hicks wedi bod ar ei daith o ddysgu Cymraeg ers dros 30 mlynedd.
Fe ddechreuodd ddysgu yn ddyn ifanc 20 oed wedi iddo ddychwelyd i Gymru ar ôl astudio gradd yn Llundain, gan ddweud bod awydd ganddo i ddysgu mwy am ei ddiwylliant.
Bellach yn 58 oed, dywedodd mai “dyfalbarhau” i ddefnyddio’r iaith oedd y peth pwysicaf iddo wrth ddysgu.
“Mae’r cyrsiau yn rhoi’r blociau adeiladau i chi," meddai.
“Ond trwy ddefnyddio beth sy’ gyda chi, fel jyst dechrau cael sgwrs gyda phobl hyd yn oed os ‘dych chi ddim yn deall popeth, neu os mae rhaid defnyddio geiriau Saesneg.
“Mae’n rili bwysig i ymarfer, ymarfer, ymarfer a jyst dyfalbarhau.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1818541380265820383
Joshua Morgan
"Mae'n bwysig iawn i rannu fy nhaith dysgu gyda fy nheulu ac mae'n gyffrous i jyst hybu a dysgu ein gilydd geirie newydd."
Mae Josh yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner. Symudodd i Loegr o Gymru pan oedd yn saith oed, cyn dychwelyd i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sylweddolodd y gallai ddysgu Cymraeg pan aeth ati i astudio iaith isiXhosa pan fu’n byw yn Ne Affrica am ddwy flynedd.
"Mewn gwirionedd, ces i fy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg pan o'n i'n byw yn Ne Affrica achos dyna ble nes i sylweddoli am y tro cyntaf fod e'n bosibl o gwbl i fi ddysgu iaith arall ac hefyd bod e'n bwysig iawn i ddysgu'r iaith ac mae'n jyst agor y diwylliant," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ces i llawer o brofiadau yno na fyddwn i wedi profi o gwbl heb yr iaith a mwy a mwy dwi'n gweld bod yr un peth yng Nghymru."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1818168613079032224
Elinor Staniforth
Doedd Elinor Staniforth ddim yn mwynhau dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol ond bellach mae’n diwtor Cymraeg ac yn addysgu siaradwyr newydd.
Mae’r tiwtor 27 oed o Gaerdydd yn un o’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Cyn dechrau ar ei thaith i ddysgu'r Gymraeg doedd hi ddim yn hoff o'r iaith, ond fe newidiodd hynny ar ôl mynd i astudio yn y brifysgol.
"Fi'n dod o teulu di-Gymraeg, nes i tyfu lan yn Caerdydd, so nes i TGAU a phethau yn yr ysgol, ond do'n i ddim yn hoffi yr iaith o gwbl," meddai wrth Newyddion S4C.
"Wedyn, es i i brifysgol yn Lloegr, es i Prifysgol Rhydychen. Ag o'n i'n un allan jyst o gwpl o bobl oedd yn dod o Gymru.
"Pan nes i gyrraedd o'n i'n rili colli Cymru a dechrau teimlo fel 'ie dylen i wedi dysgu Cymraeg yn well.'"