Gwasanaeth i goffau Alice: Merch 'anhygoel, gofalgar'
Mae gwasanaeth coffa wedi cael ei gynnal i dalu teyrnged i ferch fach naw oed a gafodd ei lladd yn ystod gweithdy dawns yn Southport wythnos diwethaf.
Cafodd Alice da Silva Aguiar ei lladd yn ystod yr ymosodiad a dwy o ferched eraill, Bebe King ac Elsie Dot Stancombe. Yn ogystal cafodd 10 arall eu hanafu yn ddifrifol.
Yn ystod y gwasanaeth yn Eglwys St Patrick yng Nglannau Mersi fe wnaeth ffrindiau a theulu Alice ganu emynau a darllen teyrngedau yn Saesneg a Phortiwgaleg.
Fe ddiolchodd rhieni Alice i'r gymuned yn lleol am y gefnogaeth ac fe ddarllenodd ei phrifathrawes deyrngedau gyda rhai o'i chyd-ddisgyblion.
Dywedodd Jinnie Payne: "Os bydden ni yn gallu ei disgrifio hi mewn tri gair fe fydden ni yn dweud anhygoel, gofalgar a hyderus.
"Os oeddech chi'n cael diwrnod gwael ac angen rhywun, byddai Alice yno i'ch helpu chi."
'Caru'
Fe siaradodd un person ar ran y teulu gan ddweud: "Alice ti yw'r ferch fwyaf prydferth a mwyaf cryf yn y byd a dwi'n gobeithio dy fo ti'n gwybod ein bod ni yn dy garu o waelod ein calonnau. Para i wenu a dawnsio gyda'r merched."
Mae disgwyl i angladd Alice gael ei chynnal ddydd Sul.
Mae Axel Muganwa Rudakubana sydd yn 17 oed wedi ei gyhuddo o dri chyhuddiad o lofruddiaeth, 10 cyhuddiad o geisio llofruddio, a bod â llafn yn ei feddiant.
Llun: Heddlu Glannau Mersi