Newyddion S4C

Etholiad America: Ymddangosiad cyntaf Tim Walz

Tim Walz

Mae Tim Walz wedi rhybuddio y bydd Trump yn mynd ar wlad “am yn ôl” wrth ymddangos am y tro cyntaf fel cyd ymgeisydd Kamala Harris yn ras arlywyddol America.

Ef fydd Dirprwy Arlywydd Kamala Harris os ydyn nhw'n ennill yr etholiad arlywyddol ym mis Tachwedd.

Wrth ymddangos gyda’i gilydd mewn digwyddiad yn Philadelphia dywedodd Llywodraethwr Minnesota fod y Gweriniaethwyr yn “rhyfedd ofnadwy”.

Ond dywedodd tîm ymgyrchu Trump fod Mr Walz yn “eithafwr Rhyddfrydol peryglus”.

Mae’r Rhyddfrydwyr yn gobeithio y bydd Tim Walz yn gallu ennill yn ôl cefnogaeth y rhai dosbarth gweithiol ac mewn ardaloedd gwledig.

Daw Tim Walz o Nebraska ac fe gafodd ei fagu yn ffermio ac yn hela. Mae wedi gwasanaethu gyda byddin America am 24 mlynedd ar ôl ymuno yn 17 oed.  Mae hefyd wedi bod yn athro mewn ysgol uwchradd ac wedi ymweld â China. Mae'n siarad rhywfaint o'r iaith Mandarin. 

Yn y rali fe ddywedodd Kamala Harris nad nhw oedd y ffefrynnau yn y ras arlywyddol ond bod ganddynt y momentwm.

Fe ddywedodd y ddau eu bod am amddiffyn hawliau unigolion gan gynnwys yr hawl i erthylu a diogelwch yn erbyn trais gynnau.

Mae Ms Harris a Mr Walz newydd ddechrau ymgyrch pum diwrnod o gwmpas rhai o’r taleithiau allweddol yn y ras. 

Llun: Wochit.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.