Newyddion S4C

Dros 140 o bobl wedi eu cyhuddo wedi terfysg ar strydoedd Lloegr a Gogledd Iwerddon

07/08/2024
Yr heddlu yn Belfast

Mae dros 140 o bobl bellach wedi eu cyhuddo o droseddau yn dilyn protestiadau treisgar mewn sawl rhan o Loegr yn ystod y dyddiau diwethaf.

Ond mae heddluoedd  ledled y wlad yn paratoi am ragor o drafferthion, gyda disgwyl nifer o ddigwyddiadau tebyg nos Fercher.

Mae penaethiaid yr heddlu wedi rhybuddio y bydd mwy o bobl yn dod gerbron y llysoedd , gan ddweud y dylai pobl fu'n rhan o'r trafferthion diweddar "ddisgwyl cnoc ar y drws."

Mae'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus wedi rhybuddio fod un achos yn cael ei ystyried fel achos posib o derfysgaeth.

Fore Mercher cafodd tri o ddynion  eu carcharu yn dilyn protestiadau treisgar yn Southport wythnos diwethaf.

Cafodd Derek Drummond ddedfryd o dair blynedd yn y carchar am anrhefn dreisgar ac ymosod ar swyddog heddlu. Cafodd Declan Geiran a Liam Riley eu dedfrydu i 30 mis a 20 mis yn ogystal, am anrhefn dreisgar.

Ar ôl y gwrandawiad dedfrydu, dywedodd Jonathan Egan, Uwch erlynydd rhanbarthol Gwasanaeth Erlyn y Goron, mai ‘megis dechrau’ oedd y broses o garcharu pobl oedd yn gyfrifol, gan ddweud bod y tri dyn “wedi bod dan gamargraff” y bydde’n nhw’n “osgoi cyfiawnder”. 

Mae disgwyl i lawer mwy o bobl ymddangos gerbron y llysoedd ar ol trafferthion mewn trefi ledled Lloegr ac yn Belfast yng Ngogledd Iwerddon. 

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y gall y rhai fu'n ran o'r terfysg dros y dyddiau diwethaf ddisgwyl cael eu dedfrydu yn gyflym.

Ar ôl cynnal cyfarfod brys arall gyda phrif swyddogion yr heddlu nos Fawrth fe ddywedodd Syr Keir Starmer ei fod yn disgwyl “dedfrydu nifer sylweddol” o’r protestwyr o fewn dyddiau.

'Rheoli'r sefyllfa'

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn credu bod o leiaf 30 o brotestiadau wedi eu cynllunio ar gyfer dydd Mercher. Ond maent yn credu bod modd “rheoli’r" sefyllfa.

Yng ngogledd Iwerddon nos Fawrth cafodd bachgen ifanc anafiadau i'w wyneb wedi ymosodiad yng ngorllewin Belfast. Mae'r heddlu yn trin yr achos fel trosedd casineb. 

Mae mwy na 400 o bobl wedi eu harestio hyd yn hyn wedi diwrnodau o anrhefn ar draws dinasoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Fe ddechreuodd y protestiadau ar ôl i dair o ferched gael eu llofruddio yn Southport.

Mae Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus wedi dweud wrth y BBC ei fod yn ystyried troseddau terfysgol mewn rhai achosion.

Fe ddywedodd hefyd bod posibilrwydd y byddai yn ystyried estraddodi dylanwadwyr dramor am eu rhan yn honedig yn annog y protestiadau. 

Llun: PA 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.