Y Bathdy Brenhinol yn dechrau tynnu aur o wastraff electronig
Mae’r Bathdy Brenhinol wedi agor ffatri newydd ar ei safle yn ne Cymru i dynnu aur o hen gyfrifiaduron a ffonau symudol a’i droi’n emwaith a nwyddau casgladwy.
Bwriad y cyfleuster yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, yw darparu ffynhonnell gynaliadwy o fetelau gwerthfawr a lleihau'r ddibyniaeth ar fwyngloddio.
Bydd hyd at 4,000 tunnell o fyrddau cylched printiedig o wastraff electronig, fel hen liniaduron a setiau teledu, yn cael eu prosesu gan y cwmni bob blwyddyn.
Mae 4,000 tunnell o fyrddau cylched yn cynnwys tua hanner tunnell o aur, 1,000 tunnell o gopr, 2.5 tunnell o arian a 50kg i 60kg o baladiwm.
Mae'r arian a'r aur yn cael eu defnyddio gan wneuthurwr swyddogol darnau arian Prydeinig i gynhyrchu gemwaith a darnau arian coffaol.
Mae'r metel anwerthfawr – gan gynnwys copr, dur ac alwminiwm – yn cael ei anfon at gwmnïau eraill i'w droi'n gynhyrchion newydd.
'Trawsnewid ar gyfer y dyfodol'
Dywedodd Anne Jessopp, Prif Weithredwr y Bathdy Brenhinol, bod agor y ffatri newydd yn "gam hollbwysig".
“Mae’r Bathdy Brenhinol yn trawsnewid ar gyfer y dyfodol, ac mae agor ein ffatri Precious Metals Recovery yn gam hollbwysig yn ein taith,” meddai.
“Nid yn unig ydym ni'n cadw metelau gwerthfawr cyfyngedig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond rydym hefyd yn cadw'r crefftwaith arbenigol.”
Ychwanegodd: “Mae’r Bathdy Brenhinol yn enwog am greu swyddi newydd a chyfleoedd i roi sgiliau newydd i'n gweithwyr.
“Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol, ac rwy’n falch ein bod ni’n diogelu’r Bathdy Brenhinol am 1,100 o flynyddoedd eto.”
Y syniad yw y bydd adennill aur yn lleihau'r ddibyniaeth ar fwyngloddio ac yn annog arferion mwy cynaliadwy yn y diwydiant.
Ar hyn o bryd, mae'r cwmni yn derbyn y byrddau cylched, sydd wedyn yn cael eu prosesu yn y ffatri arbenigol newydd i wahanu'r holl gydrannau a metelau.
Yna mae'r darnau sy'n cynnwys yr aur yn cael eu hanfon at gyfleuster arall ar y safle sy'n defnyddio cemeg cyntaf o'i fath yn y byd i dynnu'r metel.
Mae nifer o brosesau echdynnu metel yn ddibynnol ar dymheredd uchel ac yn cymryd llawer o amser.
Ond mae proses newydd y Bathdy Brenhinol yn defnyddio drwm tebyg i ddrwm peiriant golchi, sy'n golchi'r rhannau sy'n cynnwys aur mewn cymysgedd asid arbennig sy'n hydoddi'r metel o fewn pedwar munud.
Mae hefyd yn gwneud hyn ar dymheredd isel o 20C i 25C, gan ddefnyddio llawer llai o ynni na dulliau echdynnu aur eraill.
Mae popeth o'r broses yn cael ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio – o'r plastig ar y byrddau cylched i'r asid sy'n cael ei ddefnyddio i hydoddi'r aur.