Neil Foden: Teulu yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Gwynedd
Mae teulu plentyn sy'n honni eu bod nhw wedi eu camdrin yn emosiynol ac yn gorfforol gan y pedoffeil a'r cyn bennaeth ysgol Neil Foden yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr awdurdod lleol.
Fe gafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ar ôl i reithgor ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin merched yn rhywiol.
Mae'r camau sy'n cael eu cymeryd yn erbyn Cyngor Gwynedd yn ymwneud â phlentyn nad oedd yn rhan o'r achos troseddol hwnnw.
Mewn ymateb, fe ddywedodd y cyngor eu bod nhw wedi eu harswydo gan droseddau Foden ac nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw pellach tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Fis Gorffennaf, cafodd Neil Foden ei ddedfrydu i 17 mlynedd o garchar am droseddau rhyw yn erbyn pedair merch.
Fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf dwy ran o dair o'i ddedfryd o dan glo.
Wrth ei ddedfrydu, fe ddisgrifiodd y Barnwr Rhys Rowlands Neil Foden fel cymeriad "gormesol a bombastig" oedd gyda "chyfrinach warthus - obsesiwn rhywiol gyda merched ifanc bregus yn eu harddegau."
Roedd Foden yn bennaeth ar Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes cyn iddo gael ei arestio ym mis Medi 2023.