Newyddion S4C

Gwobr Goffa Daniel Owen: 'Amser ail-feddwl am y gystadleuaeth'

Gwobr Goffa Daniel Owen: 'Amser ail-feddwl am y gystadleuaeth'

Mae adolygydd llyfrau blaenllaw wedi codi cwestiwn am ddyfodol Gwobr Goffa Daniel Owen wedi i'r beirniaid atal y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Roedd “siom” ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddydd Mawrth pan gyhoeddwyd nad oedd neb yn deilwng o'r wobr sy'n cael ei rhoi ar gyfer nofel wreiddiol dros 50,000 o eiriau.

Dyma’r tro cyntaf ers 2017 ac Eisteddfod Genedlaethol Môn, a dim ond y trydydd tro y ganrif hon, i neb fod yn deilwng. 

Wrth siarad yn stiwdio S4C ar ôl y seremoni ddydd Mawrth, fe awgrymodd y golygydd ac adolygydd llyfrau Bethan Mair, ei bod yn amser edrych yn fanylach ar ofynion y gystadleuaeth.

"Gan ein bod ni nawr mewn oes lle mae na olygyddion profiadol a phroffesiynol yn y gweisg, falle fod y cyfnod lle mae amaturiaid yn sgwennu nofelau o'r bôn i'r brig wedi mynd heibio a bod y broses o gael golygyddion creadigol yn y gweisg yn golygu nad yw safon nofel sydd heb gael y driniaeth cyllell a fforc 'na gan weisg, bellach yn cyrraedd y marc," meddai.

Fe aeth Bethan Mair ymlaen i ddweud bod "y safon wedi codi i'r fath raddau fod cystadleuaeth fel hyn,l le mae nofel hollol amrwd yn dod ger bron, dwi ddim yn gwbod falle bod e'n amser ail-feddwl am y gystadleuaeth."

Image
Tomos Morgan

Fe fydd y diffyg teilyngdod yng Ngwobr Goffa Daniel Owen eleni yn ergyd meddai un siop lyfrau Cymraeg sydd â stondin ar y maes eleni.

Mae’r nofel arobryn fel arfer ar gael ar y maes yn syth ar stondinau fel Siop Inc yn Aberystwyth, lle mae Tomos Morgan yn berchennog, ac ymysg gwerthwyr gorau’r flwyddyn.

“Mae’n effeithio arnon ni llawer,” meddai Tomos Morgan. “Gyda’r 'Steddfod dan ni’n dibynnu lot ar y gwobre’ i werthu llyfre’.

“Mae diffyg gwobr yn effeithio llawer ar werthiant - Y Fedal Ryddiaith a’r Gwobr Goffa.

“Fe allen ni werthu gymaint a 200 o gopiau o’r siop. Felly mae lot o werthiant wedi ei golli.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.