Newyddion S4C

Linda Gittins a Penri Roberts yn derbyn medalau Syr T.H Parry-Williams

Linda Gittins a Penri Roberts yn derbyn medalau Syr T.H Parry-Williams

Dau sylfaenydd Cwmni Theatr Maldwyn sydd wedi derbyn medalau gwobr goffa Syr T.H Parry-Williams eleni, a hynny gan ddau o blant gŵr a fu'n allweddol i lwyddiant y cwmni.  

Sefydlodd Penri Roberts a Linda Gittins, ynghyd â'r diweddar Derec Williams, Gwmni Theatr Maldwyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth ym 1981.

Dyma'r tro cyntaf erioed i fwy nag un person dderbyn y wobr ar yr un adeg. 

Osian a Branwen Williams, plant y diweddar Derec Williams gyflwynodd y medalau i Linda Gittins a Penri Roberts mewn seremoni yn y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf. 

A bu côr o aelodau Cwmni Theatr Maldwyn yn canu rhai o'r hen ffefrynnau o'u sioeau dros y blynyddoedd.

Ers y sioe gyntaf mae'r cwmni wedi magu enw arbennig am gynhyrchu sioeau theatr eiconig yn y Gymraeg fel Ann!, Y Mab Darogan a Phum Diwrnod o Ryddid.

Ac yn ystod y 40 mlynedd diwethaf mae'r cwmni wedi cynhyrchu rhai o sêr mwyaf talentog sioeau cerdd gyda nifer wedi serennu ym mhrif rannau sioeau fel Phantom of the Opera a Les Miserables.

Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno'n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Triawd 

Dywedodd Linda Gittins ei fod yn "sioc aruthrol" cael gwybod eu bod wedi eu dewis i dderbyn y Fedal :"Rwyn hynod falch fy mod yn derbyn y fedal hon ac yn falch iawn dros Penri hefyd ond rhaid cofio am Derec. 

"Roedd yn sylfaenydd Cwmni Theatr Maldwyn hefo ni'n dau. Fel triawd roeddwm ni'n gweithio nid fel tri unigolyn ac mae'r wobr hon iddo ef gymaint â ni'n dau."

Ychwanegodd Penri Roberts: "Rwyn ddiolchgar i’r Eisteddfod am y fath anrhydedd ond rwy'n ymuno â Linda yn dymuno datgan ein bod hefyd yn derbyn yr anrhydedd ar ran y diweddar Derec Williams. 

"Triawd oedden ni wrth gyfansoddi a chynyrchu holl sioeau Cwmni Theatr Maldwyn a thri ffrind yn ogystal."

Cafodd y ddau wybod mai nhw fyddai'n derbyn y medalau eleni yn ystod ymarferiad o'u sioe Pum Diwrnod o Ryddid fydd yn teithio ar hyd a lled Cymru yn ddiweddarach eleni.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.